Cipiodd y troellwr 17 oed Luc Benkenstein chwe wiced am 44 yn ei ddeg pelawd wrth i Essex guro Morgannwg o 103 o rediadau yng nghystadleuaeth Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, yn Chelmsford.
Doedd e heb gipio’r un wiced o’r sir o’r blaen, ac fe ddaeth ei wiced gyntaf ar adeg dda pan oedd Morgannwg yn edrych fel pe baen nhw am ddod yn agos i’r nod o 342, ond daeth y wiced fawr wrth iddo fe waredu Sam Northeast, oedd wedi taro 70 oddi ar 81 o belenni cyn cael ei stympio gan Grant Roelofsen.
O’r fan honno, roedd y fuddugoliaeth yn un hawdd i Essex, ar ôl i’w hagorwyr nhw, Feroze Khushi a Tom Westley sgorio 104 yr un mewn partneriaeth o 203, sy’n record i’r sir yn erbyn Morgannwg.
Tarodd Khushi bum chwech yn ei ail ganred y tymor hwn, tra bod Westley wedi cyrraedd y nod gan wynebu 110 o belenni, ond llithrodd Essex o 247 am dair i 303 am naw ar ôl colli’r ddau fatiwr allweddol, wrth i’r troellwr Andrew Salter gipio tair wiced am 72.
Roedd 30 pelawd rhwng y wiced gyntaf gipiodd Morgannwg a’r ail wiced, gyda Westley yn cyrraedd ei hanner canred oddi ar 51 o belenni wrth gael y gorau ar y bowlwyr.
Cyflymodd y batwyr rywfaint wrth glatsio’r troellwyr Colin Ingram a Prem Sisodiya, gyda Sisodiya yn cipio’i ddwy wiced gyntaf yn ei gêm 50 pelawd gyntaf i Forgannwg.
Ar ôl cyrraedd ei hanner canred, dim ond 29 o belenni yn rhagor gymerodd hi i Khushi gyrraedd ei ganred, ond fe gafodd ei fowlio gan David Lloyd yn fuan wedyn.
Daeth canred Westley wedyn oddi ar 101 o belenni, cyn cael ei stympio oddi ar belen lydan gan Tom Cullen oddi ar fowlio Salter.
Ar ôl colli’r ddau fatiwr allweddol, collodd Essex chwe wiced mewn chwe phelawd cyn i’r pâr olaf ychwanegu 38 i’r sgôr, gyda Roelofsen heb fod allan ar 69 oddi ar 55 o belenni yn y pen draw.
Morgannwg yn cwrso’n ofer
Dechreuodd Morgannwg gwrso’n gadarn, gyda David Lloyd yn taro 30 oddi ar 17 o belenni ar ddechrau’r batiad, cyn cael ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Shane Snater oddi ar fowlio Ray Toole, a hwnnw’n chwarae yn ei gêm gyntaf i’r sir.
Adeiladodd Colin Ingram a Sam Northeast bartneriaeth sylweddol ond doedd Ingram ddim ar ei orau, ac fe gafodd ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Aron Nijjar am 17.
Adeiladodd Northeast a’r capten Kiran Carlson bartneriaeth swmpus arall cyn i Carlson ddarganfod dwylo diogel Joshy Rymell yn sgwâr ar yr ochr agored oddi ar fowlio Benkenstein, gyda Northeast yn cael ei stympio gan Roelofsen yn fuan wedyn.
Cafodd Tom Bevan ei ddal yn y cyfar wedyn gan Khushi i roi wiced arall i Benkenstein, cyn i Dan Douthwaite gael ei fowlio ganddo fe, a dwy belen yn ddiweddarach cafodd Cullen ei stympio i adael Morgannwg yn 187 am saith.
Cafodd James Weighell ei ddal gan y wicedwr oddi ar fowlio Nijjar wrth sgubo, cyn i Benkenstein waredu James Harris, gyda Nijjar yn cipio’r daliad.
Daeth y gêm i ben ar ôl 43.5 pelawd o fatiad Morgannwg pan gafodd Sisodiya ei ddal gan Snater oddi ar fowlio Westley, ac mae’r canlyniad yn gweld Morgannwg yn gorffen y gêm yn y chweched safle yn y tabl ar ôl dwy fuddugoliaeth a thair colled yn eu pum gêm hyd yn hyn.