Mae angen ailfeddwl am bethau mewn ffordd radical i helpu pobol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau corfforol, yn ôl un o bwyllgorau’r Senedd.
Mae’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol yn tynnu sylw at y duedd fod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn y gymdeithas yn dweud eu bod nhw’n gwneud llai o ymarfer corff nag yr oedden nhw cyn y pandemig, sy’n peri pryder gan fod y sefyllfa’n parhau i waethygu wrth i’r argyfwng costau byw orfodi pobol i ddewis rhwng chwaraeon neu fwyta.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi defnyddio chwaraeon fel mesur iechyd ataliol – ond mae Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Pwyllgor, yn dweud ei bod hi’n bryd gwireddu’r uchelgais hwnnw.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad cryfach os ydym am wella mynediad at chwaraeon,” meddai.
“Mae’r ymrwymiadau a wnaed hyd yma yn ddechrau da, ond nid ydynt yn mynd yn ddigon pell.
“Dyna pam rydym yn galw am gyflwyno dull cenedlaethol newydd o ymwneud â chymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol mewn ardaloedd difreintiedig.
“Bydd hefyd angen cyllid ychwanegol sylweddol i fynd i’r afael â rhai o’r heriau mwyaf a amlygwyd yn ein hadroddiad.
“Ond nid rhwystrau ariannol yn unig sy’n atal pobol rhag cymryd rhan mewn chwaraeon – dyna pam rydyn ni hefyd am weld cyfleusterau yn cael eu hagor mewn ysgolion ac yng nghymunedau mwyaf difreintiedig Cymru.
“Credwn yn gryf, os gwireddir yr argymhellion yn ein hadroddiad, y bydd uchelgais canmoladwy Llywodraeth Cymru o chwaraeon yn cael eu defnyddio fel arf ataliol i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd, addysg a nifer o anghydraddoldebau eraill, yn cael ei wireddu’n llawn o’r diwedd.”
Tystiolaeth
Fe wnaeth nifer o’r hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr a roddodd dystiolaeth i’r pwyllgor godi’r problemau a achosir gan gostau byw cynyddol – yn enwedig i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Caiff y pryderon hynny eu hategu gan Johanna Cotterrall, cyd-sylfaenydd Clwb Rygbi Caerau Trelái, sy’n dweud ei bod hi eisoes wedi gweld costau byw yn cael effaith ar bresenoldeb.
“Rydw i wedi gweld plant a rhieni yn gadael oherwydd allan nhw ddim ei fforddio,” meddai.
“Yn enwedig gyda Covid a chostau byw yn ddiweddar, mae pobol wedi bod yn ei chael hi’n anodd prynu cit newydd i blant sydd wedi tyfu yn ystod y cyfnod clo, neu dydyn nhw ddim yn gallu fforddio’r petrol i gyrraedd gemau, felly dydyn nhw ddim yn mynd.
“Rydyn ni wedi dosbarthu dros 100 pâr o esgidiau ers i ni ailddechrau ar ôl Covid.
“Roedd gennym ni fanc esgidiau y gallai pobol ei ddefnyddio – ond mae’n wag nawr. Beth ddylen ni ei wneud? Ni allwn ofyn i bobol brynu esgidiau pan na allant fforddio bwyd.
“Dyw hynny ddim yn gynhwysol. Dydyn ni ddim eisiau i chwaraeon fod ar gyfer y bobl sy’n gallu ei fforddio yn unig. Dylai fod ar gyfer pawb. Ni ddylai costau byw effeithio ar hynny.”
Argaeledd lleoliadau
Sean Carey yw cyfarwyddwr Clock Cricket, sef camp i chwaraewyr oedrannus neu lai symudol.
Mae’n dweud mai argaeledd lleoliadau addas yw’r rhwystr mwyaf yn aml.
“Y prif gŵyn sydd gan bobol yw gallu cyrraedd y lleoedd lle’r ydym yn cynnal y sesiynau – ynghyd â’r gost,” meddai.
“Mae’n gwneud ein bywyd yn llawer haws os oes lleoliadau sefydledig o fewn y cymunedau rydyn ni’n mynd iddyn nhw.
“Os gall pobol gyrraedd ar y bws, mae hynny’n helpu – ond mae’r cyfan yn ychwanegu at y gost.
“Dyna pam rydym yn awyddus i fynd allan i wahanol gymunedau lle gallwn helpu i leihau’r costau hynny i bobol.”
‘Dim cefnogaeth wedi’i dargedu’
Wrth ymateb, dywed Tom Giffard, llefarydd chwaraeon y Ceidwadwyr Cymreig, fod angen i lywodraeth Lafur Cymru wneud yn “llawer gwell”.
“Mae yna ddiffyg cefnogaeth ddifrifol wedi bod tuag at ddarparu chwaraeon dan y Blaid Lafur gan olygu bod cael mynediad at chwaraeon yn ddrytach yn ystod yr argyfwng costau byw hwn,” meddai.
“Mae penderfyniad Llafur i roi’r un gefnogaeth i bawb, er enghraifft drwy’r prydau ysgol am ddim, yn golygu nad yw’r plant mwyaf difreintiedig yn cael cefnogaeth wedi’i thargedu.
“Ni fydd geiriau gwag ac addewidion annelwig yn caniatáu i bobol gymryd rhan mewn chwaraeon. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth Lafur wneud yn llawer gwell.”