Mae Aelodau Llafur a’r Blaid Gydweithredol o’r Senedd wedi cael eu cyhuddo o ragrith am gefnogi’r isafswm pris ar unedau alcohol, tra bod y siop Co-op yn hyrwyddo alcohol rhad ar-lein.
Mae mwy na hanner (16 allan o 30) yr Aelodau Llafur o’r Senedd yn aelodau Cydweithredol, a saith ohonyn nhw’n aelodau o gabinet Mark Drakeford – yn eu plith mae Vaughan Gething (yr Economi), Jeremy Miles (Addysg) a Lynne Neagle (Iechyd Meddwl).
Yn ôl gwefan y Senedd, mae pump o’r 16 Aelod yn ymgeiswyr Cydweithredol ac mae pedwar Aelod Seneddol Cydweithredol hefyd, sef Christina Rees, Stephen Doughty, Geraint Davies a Chris Evans.
“Mae yna wythïen ragrithiol yn rhedeg trwy’r Llywodraeth Lafur ar eu gorau, ac felly hefyd i hanner eu gwleidyddion yn y Senedd pan ddaw i brisio isafswm alcohol,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Dylai gwleidyddion Llafur a’r Blaid Gydweithredol ddewis ochr a dweud a ydyn nhw’n cefnogi polisi’r llywodraeth sydd eisiau gosod mwy o gyfyngiadau ar alcohol neu beidio.
“Rydyn ni’n gweld mwy a mwy o dystiolaeth yn ddiweddar sy’n codi amheuon am effeithiolrwydd isafswm pris alcohol fel ag y mae, a dyna pam fy mod i wedi bod yn galw am adolygu’r gyfraith i weld a ddylid ei dileu.
“O ystyried arferion y Blaid Gydweithredol, rwy’n edrych ymlaen at weld eu cynrychiolwyr yn cefnogi’r alwad honno.”