Mae nifer o bobol wedi bod yn rhyfeddu – ac yn cwyno – ynghylch peiriant parcio yn Abertawe oedd yn ymddangos fel pe bai’n beiriant uniaith Gymraeg.

Dywed Paul Sambrook ar Facebook iddo gael “profiad diddorol” fore heddiw (dydd Sul, Awst 14) wrth ymweld â Bae Caswell ar gyrion y ddinas.

“Mae’r peiriant talu ar gyfer parcio ceir yn mynd yn awtomatig i’r Gymraeg ac roedd nifer o bobol yn rhoi’r gorau iddi gan eu bod nhw’n credu nad oedd y peiriant yn gweithio – doedden nhw’n methu gwneud y taliad â cherdyn gan nad oedden nhw’n deall y cyfarwyddiadau,” meddai.

Ond mae’n ymddangos eu bod nhw i gyd yn gwneud rhywbeth o’i le.

“Doedd neb ohonyn nhw’n sylweddoli fod yna fotwm ‘newid iaith’, er a bod yn deg, mae gan y botwm eicon arno fe ac nid geiriau,” meddai wedyn.

“Doedd gen i ddim problem ond fe wnaeth dynes y tu ôl i fi sylw fod “y cyfan yn y blydi Gymraeg”.

“Doedd gan ei merch, oedd oddeutu 13 oed, ddim problem ac roedd hi’n gallu darllen y Gymraeg a phwyso’r botwm newid iaith drosti.”

‘Hybu’r Gymraeg’

Yn ôl Paul Sambrook, mae’r digwyddiad yn dangos pwysigrwydd hybu’r Gymraeg.

“Y wers yw fod mynd yn awtomatig i’r Gymraeg yn hyrwyddo’r iaith Gymraeg mewn modd positif – ond mae gwir angen cyfarwyddyd clir arnyn nhw ynghylch sut i newid i Saesneg neu unrhyw iaith arall sydd wedi’i chynnwys – neu mae angen i’r sgrîn gychwynnol fod yn ddwyieithog.

“Dw i’n siŵr y bydd ambell un yn diflasu ynghylch y Gymraeg, ond disodli’r Gymraeg gyda Saesneg fyddai’r peth gwaethaf – llwyddodd y rhan fwyaf o bobol i’w ddatrys neu roedden nhw o leiaf yn gallu darllen Cymraeg yn ddigon da.”

Digwyddiad tebyg yn y Rhyl

Daw’r digwyddiad yn Abertawe ar ôl i sefyllfa debyg godi yn y Rhyl, lle’r oedd pobol yn ciwio ger peiriant talu Cyngor Sir Ddinbych.

Ar ben dryswch ieithyddol, doedd y peiriant dan sylw ddim yn derbyn cerdyn.

Dywedodd un person dienw fod modurwr wedi rhoi’r gorau i geisio talu, gan ddweud “Pam fod y cyfarwyddiadau ddim ond yn Gymraeg? Dydy llawer o bobol yn y Rhyl ddim yn siarad Cymraeg”.

Roedd teulu o Lannau Mersi hefyd yn cwyno, yn ogystal ag unigolyn arall oedd yn hwyr i gyfarfod.

Mae llefarydd ar ran y Cyngor yn dweud eu bod nhw’n ymchwilio i’r mater, ond yn atgoffa pobol fod dau faes parcio arall i’w defnyddio a bod modd defnyddio ffôn i dalu hefyd.

Maen nhw hefyd wedi egluro bod modd pwyso botwm ar y peiriant talu er mwyn newid yr iaith, bod eglurhad ynghylch hyn ar y peiriant ond fod staff hefyd ar gael yn y maes parcio i gynnig cyngor.