Mae ymchwiliad ar y gweill i’r penderfyniad i wrthod yr hawl i ysgol Gymraeg ganu yn Gymraeg mewn gŵyl gymunedol yn y Mwmbwls yn Abertawe.
Wrth ohebu â’r ysgol, nododd y Cynghorydd Rob Marshall, sy’n gerddor lleol adnabyddus ac yn feirniad eisteddfodol, fod disgwyl i saith ysgol ganu gyda’i gilydd yn y digwyddiad, ac y dylen nhw ganu yn Saesneg.
Nododd iddo glywed disgyblion Ysgol Gyfun Gŵyr yn siarad Saesneg â’i gilydd, ac nad oedd yn gweld yr angen canu yn Gymraeg mewn cymuned lle mai Saesneg yw’r brif iaith.
Fe wnaeth ei sylwadau arwain at gŵyn gan bennaeth Ysgol Llwynderw, a bydd Cyngor Cymuned y Mwmbwls bellach yn trafod y mater, ac fe allen nhw benderfynu ymddiheuro wrth yr ysgol a symud y cynghorydd o’i rôl yn is-gadeirydd y pwyllgor diwylliant.
Dydy safonau iaith y Comisiynydd ddim yn berthnasol i gynghorau tref a chymuned ar hyn o bryd, ond mae disgwyl iddyn nhw ddilyn yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg.
Cefndir
Ar Orffennaf 26, derbyniodd Cyngor Cymuned y Mwmbwls gŵyn gan bennaeth Ysgol Llwynderw, un o ysgolion cynradd Cymraeg yr ardal.
Roedd yr achwynydd yn nodi pedwar rheswm, sef eithrio’r Gymraeg a’r diwylliant, cynnwys amhriodol i blant ysgol gynradd, ymddygiad a gohebiaeth y Cynghorydd Rob Marshall, a mecanweithiau craffu a llywodraethiant Cyngor Cymuned y Mwmbwls.
Yn sgil y sefyllfa, mae argymhelliad y dylai’r cyngor tref addasu eu gweithdrefnau achwynion ac y dylen nhw sefydlu gweithgor i ddiwygio’u darpariaeth iaith Gymraeg a llunio camau er mwyn sicrhau nad yw’r un sefyllfa’n codi eto yn y dyfodol.
Yn sgil diffyg swyddogion sy’n siarad Cymraeg, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau hyfforddiant iaith Gymraeg i’r rheiny sy’n ddi-Gymraeg.
Serch hynny, maen nhw’n dweud iddyn nhw adlewyrchu’r diwylliant yn y digwyddiad, er nad oedd canu yn Gymraeg, a hynny yn sgil diffyg amser i anfon gwahoddiadau at ysgolion a thrafod eu perfformiadau gyda nhw ymlaen llaw.
Maen nhw’n derbyn nad oedd cynnwys un o’r caneuon yn briodol ar gyfer plant ysgol gynradd, ac maen nhw wedi ymrwymo i sicrhau caneuon addas yn y dyfodol.
O ran cwyno am gynghorydd unigol, mae’r Cyngor Cymuned yn dweud nad oes ganddyn nhw’r hawl i gynnal ymchwiliad, ac y dylid anfon unrhyw bryderon at yr Ombwdsmon.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan y Cyngor Cymuned.