Marchant de Lange (Llun: Clwb Criced Morgannwg)
Mae Clwb Criced Morgannwg wedi arwyddo bowliwr cyflym De Affrica, Marchant de Lange ar gytundeb tair blynedd.

Ymddangosodd yn nhîm cenedlaethol ei wlad am y tro cyntaf yn 2011, gan gipio saith wiced am 81 yn ei gêm gyntaf.

Ond mae’n cael ei adnabod yn bennaf fel bowliwr undydd erbyn hyn, ac yntau wedi cynrychioli ei wlad mewn 10 gêm undydd, yn ogystal â’r Kolkata Knight Riders a’r Mumbai Indians yn yr IPL, a’r Guyana Amazon Warriors a’r Barbados Tridents yn y Caribbean Premier League.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris fod y clwb “wrth eu bodd… o’i weld e’n dod i Gymru heddiw”.

“Mae Marchant yn fowliwr cyflym o’r radd flaenaf a’i yrfa ar ei hanterth, ac fe fydd e’n ychwanegu haen newydd i’r bowlwyr.”

‘Enillydd gemau’

Yn ôl Prif Hyfforddwr Morgannwg, Robert Croft, mae Marchant de Lange yn “enillydd gemau”.

“Mae ganddo fe gyflymdra, mae e’n ymosodol ac mae e’r oedran cywir ac yn y cyfnod cywir o’i yrfa i greu argraff i ni.

“Pan y’ch chi’n ceisio ennill gemau mewn criced pedwar diwrnod, cipio ugain wiced yw’r her ac mae Marchant yn gipiwr wicedi, ond mae ei berfformiadau mewn criced undydd hefyd wedi creu argraff ac fe fydd e’n ychwanegiad gwych i’n carfan ni.”

Bydd Marchant de Lange ar gael ym mhob fformat i Forgannwg, ac mae disgwyl iddo fe chwarae yn y gêm Bencampwriaeth yn Northampton sy’n dechrau ddydd Gwener.

Fe yw’r pumed chwaraewr i arwyddo’i gytundeb proffesiynol cyntaf gyda’r sir ar ôl Owen Morgan, Kiran Carlson, Lukas Carey a Jack Murphy.