Wrth lansio’u Deddf Addysg Gymraeg eu hunain yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am wneud y Gymraeg yn iaith addysg i bawb yng Nghymru erbyn 2050.

Daw’r newyddion wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi ymgynghoriad yn yr hydref fel rhan o’i hymrwymiad i gyflwyno deddfwriaeth yn y maes o fewn y pedair blynedd nesaf.

Fe fydd y Gymdeithas yn lansio ymgynghoriad gyda mudiadau addysg a’r cyhoedd ar ei chynnwys.

Keith Bush, Cymrawd Cyfraith Cymru yng Nghanolfan Llywodraethiant Cymru, sydd wedi llunio’r Ddeddf ar lun gweledigaeth a pholisïau’r mudiad iaith.

Bydd yr ymrwymiad i osod nod o sefydlu system addysg uniaith Gymraeg i bawb erbyn 2050 yn rhan o becyn o fesurau llawn sy’n cael ei lansio gan y mudiad yr wythnos nesaf.

Ymhlith y mesurau eraill fydd:

  • cael gwared ar Gynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, gan gyflwyno un Fframwaith Addysg Gymraeg Cenedlaethol yn eu lle
  • sefydlu’r egwyddor o un cymhwyster Cymraeg mewn statud, gan gael gwared ar y cymwysterau Cymraeg Ail Iaith sy’n gadael cymaint o’n pobl ifanc i lawr

‘Cyfle unwaith mewn cenhedlaeth’

“Mae cyfle unwaith mewn cenhedlaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Gweinidog Addysg,  Jeremy Miles,” meddai Catrin Dafydd ar ran Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae addysg cyfrwng Cymraeg i bawb o fewn cyrraedd am y tro cyntaf erioed.

“Rydyn ni’n galw am osod mewn statud mai’r Gymraeg fydd iaith addysg yng Nghymru, gyda phob ysgol ar lwybr i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bawb erbyn 2050.

“Ar faes yr Eisteddfod yr wythnos nesa felly, byddwn ni’n lansio ein Deddf ein hunain ac yn dechrau ymgynghori arni.

“Rydyn ni am ysgogi sgwrs eang ar lawr gwlad am ddarn o ddeddfwriaeth hollbwysig fydd yn effeithio ar gyfleoedd economaidd a diwylliannol miloedd o blant am weddill eu bywydau.”