Mae’r Eisteddfod yn gofyn i bobol ar y maes carafanau yn Nhregaron i beidio â symud eu ceir ar y maes carafanau heddiw (dydd Mawrth, Awst 2).

Daw’r cais yn sgil y tywydd yn Nhregaron.

Dim ond mewn argyfwng y dylid symud eich car oddi yno, meddai’r Eisteddfod, a hynny “oherwydd ei bod hi wedi bwrw dros nos”.

“Mae’r rhagolygon yn gwella a digon o haul ar ei ffordd am weddill yr wythnos.”