Cafodd 18 o enillwyr Eisteddfod yr Urdd eu hurddo’n aelodau o’r Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron ddoe (dydd Llun, Awst 1).

Cawson nhw’r Wisg Werdd ar ôl ennill rhai o brif gystadlaethau’r Urdd ym Mrycheiniog a Maesyfed (2018), Caerdydd (2019), Eisteddfod T (2020 a 2021), yn ogystal ag Eisteddfod 2020-21 a gafodd ei chanslo yn sgil y pandemig.

Mae enillwyr y Goron, y Gadair, y Fedal Gyfansoddi, Medal y Dysgwyr a’r Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd yn gymwys i dderbyn y Wisg Werdd yn yr Orsedd, ynghyd â rheiny ym maes celf a chrefft a thechnoleg, gyda Rhiannon Gwyn o Fethesda hefyd yn cael ei hanrhydedd ar ôl ennill Tlws Celf Dylunio a Thechnoleg yn Eisteddfod T y llynedd.

“Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch yr holl aelodau sydd wedi eu Hurddo a derbyn eu lle yn yr Orsedd yn Nhregaron eleni,” meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd.

“Mae’r Wisg Werdd yn symbol o gyfraniad i gelfyddydau a diwylliant Cymru; braint ac anrhydedd haeddiannol iawn i’w cyflwyno i brif enillwyr Eisteddfod yr Urdd.

“Braf oedd gweld ein pobl ifanc yn cael eu hurddo fel rhan o’r Brifwyl, yn enwedig i’r enillwyr oedd wedi colli allan ar fwrlwm y Maes wrth i’r Eisteddfod addasu a throi’n ddigidol yn 2020 a 2021 o ganlyniad i’r pandemig.

“Ar ran yr Urdd hoffwn longyfarch bob un sydd wedi eu Hurddo ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron ddoe.”

Cafodd y canlynol eu hurddo fel prif enillwyr Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron eleni:

  • Brycheiniog a Maesyfed 2018 (Gwisg Werdd):

Sioned Erin Hughes, Boduan, Pwllheli: Coron

 

  • Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Caerdydd 2019 (Gwisg Werdd):  

Siriol Jenkins, Stepaside, Arberth: Medal Gyfansoddi

Francesca Elena Sciarrillo, Yr Wyddgrug: Medal y Dysgwyr

Mared Roberts, Pentre’r Bryn, Llandysul: Medal Ddrama

Brennig Davies, Gwenfô: Coron

 

  • Eisteddfod T 2020 (Gwisg Werdd):

Cai Fôn Davies, Penrhosgarnedd, Bangor: Prif Gyfansoddwr

Rosina Jones, Y Rhath, Caerdydd: Prif Ddysgwr

Nest Jenkins, Casblaidd, Hwlffordd: Prif Ddramodydd

Mared Fflur Jones, Dolgellau: Prif Lenor

 

  • Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2020-2021 (Gwisg Werdd):

Ioan Wynne Rees, Cyffylliog, Rhuthun: Medal Gyfansoddi

Miriam Elin Sautin, Llanbedrog, Pwllheli: Medal Ddrama

Megan Angharad Hunter, Penygroes, Caernarfon: Coron

Carwyn Morgan Eckley, Grangetown, Caerdydd: Cadair

 

  • Eisteddfod T 2021 (Gwisg Werdd):  

Alaw Grug Evans, Pontyberem, Llanelli: Prif Gyfansoddwr

Rhiannon Lloyd Williams, Caerdydd: Prif Ddramodydd

Sioned Medi Howells, Pencader: Prif Lenor

Kayley Sydenham, Rogerstone, Casnewydd: Prif Fardd

Rhiannon Gwyn, Sling, Bethesda: Tlws Celf Dylunio a Thechnoleg