Esyllt Maelor yw enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Daeth y bardd o Forfa Nefyn i’r brig mewn cystadleuaeth a ddenodd 24 o geisiadau.

Caiff y Goron ei chyflwyno eleni am bryddest neu gasgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd, hyd at 250 o linellau, ar y pwnc ‘Gwres’.

Caiff y Goron ei rhoi gan Fridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen, a chafodd ei chynllunio a’i chynhyrchu gan yr artist Richard Molineux.

Yn ogystal â chyflwyno’r Goron ei hun, mae’r wobr ariannol o £750 hefyd yn cael ei rhoi gan Ifor a Myfanwy Lloyd o’r Fridfa.

Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Williams.

Y feirniadaeth

Dechreuodd Cyril Jones ei feirniadaeth o’r llwyfan gyda’r cwestiwn ar wefusau pawb yn y Pafiliwn, “A fydd Tregaron yn troi’n ‘dre’r goron’?”

“Dyna’r cwestiwn mawr yn eich meddyliau y prynhawn ‘ma siwr o fod,” meddai.

“Cewch yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn go fuan. Chwarae teg, ry’ch chi wedi gorfod disgwyl am ddwy flynedd.

“Cofiwch, mae’r dau ddwsin o feirdd sydd wedi wedi cystadlu wedi gorfod aros dwy flynedd a phedwar mis.

“Ie, dyna chi, ry’ch chi’n gywir – fe anfonwyd y cerddi hyn i’r gystadleuaeth reit ar gychwyn cyfnod y clo cyntaf, ddechrau Ebrill 2020…

“Beth am y gystadleuaeth? Mae’r geiriau canlynol gan Gerwyn, y cyfeirniad arall, yn ei feirniadaeth ysgrifenedig yn adlewyrchu barn y tri ohonom: ‘digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd’ ond mae’n mynd rhagddo i ddweud ‘yn y dosbarth teilyngdod bu’n gystadleuaeth a’m plesiodd yn arw.’

“A dyna chi, felly, yn gwybod yn syth – bydd, fe fydd Tregaron yn troi’n ‘dre’r goron’.

“Mae Samiwel yn chwilio am ystyr i’w hynt ddaearol yng nghanol manion ein byw beunyddiol yma yng Nghymru a’i gororau.

“Dyma fel yr ymatebodd y tri ohonom – ar wahân – ar ôl darllen cerddi Samiwel.

‘Rwy’n ddieiriau’ meddai Gerwyn (dim yn aml mae Gerwyn yn cael ei daro’n fud!); ‘Aiff gwreiddioldeb ei ddelweddau â’n gwynt weithiau’ oedd geiriau Glenys. Ac fe ‘wedes innau:’ cyn i fi gyrraedd diwedd y gerdd gynta roeddwn i wedi codi ar fy nhraed ac yn darllen yr ail gerdd yn uchel.’ Ac fe geisia i, yn awr, egluro pam fod y cerddi hyn wedi cael effaith mor drawiadol, wedi’n cyffroi yn gorfforol hefyd.  ‘Mae’n fardd sy’n mynd â ni ar siwrnai greadigol ac emosiynol ac yn feistr ar drin iaith yn fyw’, a dyna Gerwyn yn crynhoi’r cyfan yn dwt. ‘Mae e’n gwybod sut mae procio’r deall a’r teimlad,’ meddai Glenys.

“Bu’n fraint cael cyfeirniadu â Glenys a Gerwyn ac yn fraint hefyd i fod yn feirniad yn fy sir enedigol ar gystadleuaeth mor nodedig, yn enwedig wrth iddi gyrraedd ei brig.

“Byddai’r tri ohonom wedi bod wrth ein bodd yn coroni Kairos a Dyn Bach Gwyrdd. Rŷn ni’n gobeithio y bydd y ddau yn cyhoeddi eu cerddi yn fuan.

“Ond yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gytûn taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron.”

Y Goron i Esyllt Maelor

Un o Harlech, Meirionnydd yw Esyllt Maelor, ond yn Abersoch, Llŷn y cafodd ei magu a’i haddysgu cyn mynd yn ei blaen i’r Brifysgol ym Mangor a graddio yn y Gymraeg.

Mae dylanwad ei rhieni Brenda a Gareth Maelor a’i hathrawon wedi bod yn bwysig iddi a bu’n ffodus o fod yng nghwmni addysgwyr blaengar fel T Emyr Pritchard ac R Arwel Jones tra’n ddisgybl yn Ysgol Botwnnog.

Cafodd yrfa ym myd addysg gan arwain prosiectau a gwneud gwaith ymgynghorol, ond doedd dim yn rhoi mwy o bleser iddi na chydweithio gyda phlant a phobl ifanc a’u hannog i siarad yn gyhoeddus ac i sgwennu.

Braint oedd cael mynd yn ôl i’w hen ysgol ym Motwnnog i weithio fel Pennaeth Adran y Gymraeg ac mae ei dyled yn enfawr i’w chyn-ddisgyblion yn Mrynrefail, Edern a Botwnnog am ei hysbrydoli ac am ddangos pa mor bwysig yw geiriau.

Mae’n credu fod yna sgwennwr ymhob plentyn ac mae’n ymfalchïo yn llwyddiannau ei chyn-ddisgyblion sydd wedi dal ati i sgwennu a chyfrannu i’w cymunedau.

Esyllt Maelor oedd y ferch gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd nôl yn 1977 yn y Barri.

Rhwng magu plant a dilyn gyrfa, cyhoeddodd Edith Cwm Cloch, Telynores Eryri (Gwasg Gwynedd) a chyfrolau i blant a phobl ifanc a hi oedd golygydd y gyfrol Galar a Fi (Y Lolfa).

Cyhoeddodd Dewch i Mewn (Y Lolfa) sef cyfrol o straeon ar gyfer dysgwyr eleni – cyfrol sy’n ffrwyth cydweithio hapus rhyngddi hi a grŵp o ddysgwyr y Gymraeg yn ardal Nefyn.

Mae ganddi hi a’i gŵr Gareth dri o blant – Dafydd, Rhys a Marged. Y mae ôl dylanwad Dafydd ei mab ar y cerddi hyn – ef yn y bôn fu yno’n gefn iddi ac ef a’i gyrrodd i sgwennu.

Mae’n hynod ddiolchgar i bobl ardal Morfa Nefyn am eu cynhaliaeth a’u hanogaeth, i ffrindiau arbennig fu’n glust iddi, i’w theulu am eu cefnogaeth ac i Aled Jones Williams a chriw’r grŵp darllen yn Llanystumdwy am ei symbylu â’u hegni positif.

Esyllt Maelor yw Cadeirydd Pwyllgor Llenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd, 2023.

Dylanwad ardal yr Eisteddfod ar y Goron

Mae’r Goron yn ddathliad o ddiwylliant yr ardal a Chymru mewn cyfres o ddeuddeg o ffasedau gwydr lliw o amgylch y pen.

Mae’r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Gan ddefnyddio ei ddyluniadau gwreiddiol, paentiodd y crefftwr wydr wedi’i chwythu â cheg yn ofalus gydag ocsidau, ei staenio â staen arian a’i enamlo â ffrit lliw cyn ei danio sawl gwaith yn yr odyn.

Defnyddiodd dechneg ffoil copr a arloeswyd gan Louis Tiffany ar ddiwedd y 1800au i greu cyfres o ffasedau 3 dimensiwn.

Yna, gosododd y gwydr ar fand pen copr wedi’i wehyddu â llaw, yn debyg i arddull gwehyddu basged, er mwyn cynrychioli basged gynhaeaf, a’r creadigrwydd sy’n cael ei gynaeafu yn yr Eisteddfod.

O fewn y band pen ceir cap ffelt coch llachar, wedi’i frodio â chord aur gan yr artist tecstilau Elinor McCue mewn patrwm clymwaith Celtaidd.

O amgylch y band pen mae’r geiriau Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 wedi’u gosod, gyda phob llythyren wedi’i thorri â laser yn unigol o len gopr cyn cael ei enamlo gyda graddio gwyrddlas dau dôn mewn odyn enamlo cyn eu gosod ar y Goron.

Bydd y cerddi buddugol yn cael eu cyhoeddi ar wefan yr Eisteddfod ar ôl y seremoni, a bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron tan Awst 6.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.

Gwyliwch ein cyfweliad fideo gydag Esyllt Maelor drwy fynd i’n tudalen Facebook: https://m.facebook.com/Golwg360/

 

Logo Golwg360

Merch a’i mam yn ail a thrydydd am y Goron

Marged Tudur ac Esyllt Maelor o fewn cyrraedd