Mae Cymdeithas yr Iaith yn dathlu chwedeg mlynedd o ymgyrchu ac enillion eleni, ac wedi dechrau wythnos o ddathlu ar faes yr Eisteddfod â thaith gerdded a beicio o Bont Trefechan i Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.
Pont Trefechan oedd safle protest gyntaf y mudiad yn 1963, pan eisteddodd myfyrwyr ar draws y bont a rhwystro’r ffordd fel rhan o brotest dros statws i’r Gymraeg.
“Mae pethau wedi newid tipyn dros y chwedeg mlynedd diwethaf mewn sawl ffordd a rhaid diolch i ymgyrchwyr am sicrhau fod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu,” meddai Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu’r Gymdeithas.
“Mae’n bwysig i ni gydnabod cyfraniad pawb sydd wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd y Gymdeithas dros y blynyddoedd a dathlu’r llwyddiannau.
“Ond mae ffordd bell i fynd o hyd – mae’r mwyafrif o blant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg Gymraeg, does dim hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob sefyllfa ac mae’r Gymraeg dan fygythiad fel iaith gymunedol felly mae angen i ni ddal ati i ymgyrchu.”
Edrych ymlaen mor bwysig ag edrych yn ôl
Wrth edrych yn ôl a dathlu, mae edrych i’r dyfodol yr un mor bwysig i’r mudiad.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhoeddi maniffesto newydd, Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i’r 21ain Ganrif, ddiwedd yr wythnos gyda’i gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.
“Mae cymaint allwn ni ddysgu o’r gorffennol, ond mae yr un mor bwysig i ni edrych i’r dyfodol,” meddai Tamsin Davies wedyn.
“Felly hoffem wahodd pawb sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg a’n cymunedau i ddod i stondin Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod, i ymaelodi, i ymuno â’n hymgyrchoedd a sefyll dros y Gymraeg a’n cymunedau.
“Nid yw’r frwydr ar ben, ond gyda’n gilydd, mi allwn ei hennill.”