Mae Ail-fframio Picton, arddangosfa dan arweiniad cymunedol, yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd heddiw (dydd Llun, Awst 1).
Mae’r arddangosfa’n cynnwys dau waith comisiwn newydd, fydd yn dod yn rhan o gasgliad cenedlaethol Cymru.
Mae’r ddau waith comisiwn yn cynnwys gosodwaith ymdrwythol o gerfluniau, gwrthrychau o gasgliadau Amgueddfa Cymru, ffotograffau trawiadol a ffilm.
Bydd y gweithiau hyn yn helpu i ail-fframio hanes yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton (1758-1815), gan roi llais i’r bobol gafodd eu heffeithio fwyaf gan ei weithredoedd a’r bobol sy’n byw gyda’r waddol hyn heddiw.
Yn ogystal â’r gweithiau comisiwn, bydd portread yr Is-gadfridog Syr Thomas Picton yn dychwelyd i waliau’r oriel mewn ffrâm gludo, ar ôl bod yn absennol ers Tachwedd 2021.
Mae’r portread gan Syr Martin Archer Shee wedi bod yn rhan o gasgliadau Amgueddfa Cymru ers ei sefydlu ym 1907.
Gwnaed y penderfyniad i ail-ddehongli’r portread fel rhan o Ail-fframio Picton – rhaglen dan arweiniad pobol ifanc o Rwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is Sahara (SSAP) a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru.
Rhagor o wybodaeth a chyd-destun
Gweithiodd tîm y prosiect gyda churaduron yr Amgueddfa i ddarparu rhagor o wybodaeth a chyd-destun o hanes Picton fel llywodraethwr Trinidad ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae hyn yn cynnwys ei driniaeth giaidd o bobol Trinidad, gan gynnwys arteithio Luisa Calderon, merch 14 oed – gwybodaeth oedd ddim yn rhan o ddehongliad gwreiddiol yr Amgueddfa o’r portread.
Edrychodd tîm y prosiect ar amrywiaeth o wrthrychau o gasgliadau Amgueddfa Cymru er mwyn ail-ddehongli naratif Picton.
Ymhlith y gwrthrychau hyn mae trawsgrifiad newydd o achos llys Picton ym 1806, medalau gwrthgaethwasiaeth a gafodd eu cynhyrchu i gefnogi’r mudiad ym Mhrydain yn niwedd y ddeunawfed ganrif, a medal o Eisteddfod Caerfyrddin 1819 am farwnad i Thomas Picton.
Datgelu, nid dileu, hanes
“Am genedlaethau, hyd heddiw hyd yn oed, mae dweud ’mae Bywydau Du o Bwys’ wedi bod yn ddadleuol,” meddai tîm y prosiect.
“Wrth weithio ar y prosiect hwn fe wnaethon ni bwynt i ddatgelu – nid dileu – hanes, ac roedd hi’n hollbwysig cael cyfraniad uniongyrchol pobol sy’n gysylltiedig â Thrinidad ble enillodd Picton enw am greulondeb yn ystod ei gyfnod fel Llywodraethwr.
“Un o amcanion yr arddangosfa oedd creu lle cydwybodol, nid lle i bregethu.
“Lle i agor trafodaeth rhwng amgueddfeydd, llywodraethau sy’n eu hariannu, a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
“Creu dulliau llesol o wynebu trawma. gobeithiwn y bydd yr arddangosfa yn annog ymwelwyr o bob cefndir i wrando a dysgu o’r gorffennol, ac i arfer eu gwybodaeth newydd o ddydd i ddydd.”
Naratif gwahanol
Cafodd dau waith eu comisiynu ar ôl galwad gan Amgueddfa Cymru yn Ionawr 2021 i artistiaid edrych am naratif trefedigaethol gwahanol i’r un gaiff ei gyflwyno gan y portread o’r Is-gadfridog Syr Thomas Picton, naratif sy’n ganolog i brofiad pobol Ddu.
Mae’r gweithiau newydd gan Gesiye a Laku Neg yn trafod cyndeidiau, iachau, gweddnewid a grymuso, ac yn herio’r naratifau trefedigaethol traddodiadol yn orielau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd drwy roi llwyfan i ymwybod, profiadau a lleisiau Du.
Artist amlddisgyblaethol o Drinidad a Thobago yw Gesiye.
Mae ei gwaith gydag unigolion a chymunedau yn trafod storia, cyswllt ac iachau mewn sawl cyfrwng, ac wedi cael ei ysbrydoli gan gariad a pharch dwfn at y tir.
Mae ei chomisiwn, Mae’r Briw yn Borth yn defnyddio catharsis derbyn tatŵ i edrych ar drawma yn ymwneud â’r tir sy’n pontio’r cenedlaethau.
Mae ei gosodwaith yn cynnwys cyfres o ffotograffau a ffilm fer.
Mae pob tatŵ yn y gwaith hwn sy’n pontio cenedlaethau wedi’u cysylltu drwy animeiddio stop-motion, gan rymuso o’r newydd a dod yn borth i ailgysylltu â’r hunan, gyda’n gilydd, a gyda’r tir.
“Mae’r offrwm iachaol hwn yn borth, yn awdl i’n hynys, i’w phrydferthwch ac i’n perthyn,” meddai.
“Mae trawma caethwasiaeth a threfedigaethu yn parhau i effeithio ar berthynas diaspora Affrica â’r tir.
“Yn Mae’r Briw yn Borth rydw i’n defnyddio dulliau iachau diaspora Affrica i wau mytholeg o dir a phersonoldeb, i ddathlu hunaniaeth bersonol wrth greu gofod i gydnabod ein gwirioneddau a gweddnewid ein poen.
“Rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i greu’r gwaith hwn ar y cyd â cherddorion, dylunwyr, cynhyrchwyr ffilmiau, ffotograffwyr ac wyth gwirfoddolwr o bob cwr o’r ynys, wnaeth gyfarfod am y tro cyntaf drwy’r profiad.”
Laku Neg
Caiff Laku Neg (iard Ddu yn iaith Kwéyòl Haiti) ei gynrychioli gan bedwar artist – tri o dras Trinidadaidd – sy’n byw ac yn gweithio yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r grŵp yn hyrwyddo mynegi gwybodaeth diaspora Affrica drwy’r celfyddydau.
Gosodwaith ymdrwythol yw eu comisiwn Spirited – tapestri o atgofion a dealltwriaeth sy’n cynnwys cerflunwaith metel, fframiau bambŵ, papur wedi’i blethu, gwrthrychau wedi’u canfod ac elfennau gweledol.
Cafodd y gwaith ei ysbrydoli gan draddodiadau, arferion ac estheteg Ol’ Mas’ Carnifal Trinidad a Thobago.
Mae’r comisiwn yn cyflwyno o’r newydd Luisa, thisbe a Present – tair y gwyddom iddyn nhw ddioddef dan deyrnasiad ciaidd Picton yn Nhrinidad.
“Mae’r gwaith cyndeidiol hwn yn amlygu traddodiadau torredig Affrica yn Nhrinidad sy’n greiddiol i’n diwylliant ynys,” meddai.
“Yma rydyn ni’n ail-greu cyfnod lle mae hanes Triniad a Chymru yn gorgyffwrdd.
“Mae’n gelfyddyd a gludir o’n dychymyg; mae’n cael ei ysgogi gan brofiad a gwybodus gan, nid ymateb i, hanes.
“Mae’n dwyn olion bysedd cymunedau o gefnogwyr yn Trinidad ac yng Nghymru, a helpodd i wireddu gweledigaeth a darddodd yn ein buarth.”
Cydweithio a gwrando
“Mae’r project yn ffrwyth partneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is-Sahara (SSAP), a Chynhyrchwyr Amgueddfa Cymru,” meddai Dr Kath Davies, Cyfarwyddwr Casgliadau ac Ymchwil Amgueddfa Cymru.
“Mae’n dyst i bwysigrwydd a chanlyniadau positif cydweithio a gwrando ar ein gilydd.
“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bobol ifanc Rhwydwaith Ieuenctid SSAP am roi o’u hamser i gydweithio â ni yn y r Amgueddfa, ac rydyn ni’n falch iawn o’r gweithiau sydd bellach yn rhan o’r casgliad cenedlaethol.
“Diolch i’r artistiaid am weithio drwy bandemig ac ar draws ffiniau rhyngwladol.
“Gobeithio bydd y gweithiau yn sbarduno sgyrsiau am gynrychiolaeth, a niferus hanesion Cymru mewn amgueddfa fodern.”
Dyrchafu Picton
“Am flynyddoedd lawer mae Picton wedi cael ei ddyrchafu yng Nghymru,” meddai Fadhili Maghiya, Cyfarwyddwr y Panel Cynghori Is-Sahara.
“Nawr, am y tro cyntaf, mae gan gymunedau a gafodd eu hecsploetio a’u cam-drin gan Picton a’i debyg gyfle i ddathlu.
“Ein straeon ni, wedi’u hadrodd drwy gyfrwng gweithiau celf prydferth a positif, yn dathlu ein dycnwch ac yn cofio ein treftadaeth a’n hanes – ein hochr ni o’r stori.
“Mae’n bosib bydd camddealltwriaeth bod Amgueddfa Cymru a Rhwydwaith Arweiniad Ieuenctid y Panel Cynghori Is-Sahara yn ceisio ail-ysgrifennu hanes.
“Ond mae hyn yn bell o’r gwir.
“Nod Ail-fframio Picton yw ail-ysgrifennu’r dyfodol, drwy herio sut fyddwn ni’n trafod hanes.
“Mae’r project yn ein galluogi i daflu goleuni ehangach ar hanes sydd wedi cuddio tywyllwch Picton ers blynyddoedd, a dangos ei gyd-destun gwir, cyflawn.
“Mae Rhwydwaith Ieuenctid SSAP ac Amgueddfa Cymru wedi chwarae rôl allweddol yn llywio sgyrsiau pwysig am ein cenedl a’r gorffennol.
“Gobeithio taw dyma ddechrau darganfod a rhoi llwyfan i’r niferus leisiau cudd sydd wedi gwneud Cymru yn genedl lwyddiannus, gyda chyfrifoldeb rhyngwladol sy’n dod a chymunedau ynghyd i ffynnu.”
Cymru wrth-hiliol erbyn 2030
“Rydyn ni wedi ei gwneud hi’n glir ein bod ni wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030,” meddai Jane Hutt, Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
“Ond er mwyn cyflawni’r amcan hwnnw, mae’n rhaid i ni i gyd feddwl am bwy yr ydyn ni’n ei goffáu a’r ffordd yr ydyn ni’n gwneud hynny.
“Mae Amgueddfa Cymru wedi gweithio gydag amrywiaeth o randdeiliaid i ddiweddaru ei dehongliad o Picton.
“Mae prosiectau fel hyn, yn dangos pa mor bwysig yw deall ein gorffennol.
“Dyw hyn ddim yn ymwneud ag ail-ysgrifennu hanes, mae’n ymwneud â thynnu sylw at y cyd-destun, a chymryd golwg fwy cyfannol ar ein gorffennol.
“Rydyn ni’n gwybod mai dim ond dechrau’r daith yw hyn, a bod angen help ein cymunedau i greu’r Cymru Wrth-hiliol yr ydyn ni i gyd eisiau byw ynddi, a ffynnu ynddi.
“Os gwnawn ni hyn yn iawn, byddwn ni’n creu cymdeithas lle mae pawb yn cael eu gwerthfawrogi am bwy ydyn nhw a’r cyfraniad y maen nhw’n ei wneud.”