Fe wnaeth Robert Buckland, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Dregaron heddiw (dydd Llun, Awst 1), gan ddweud bod cydraddoldeb ieithyddol yn hanfodol er mwyn gwireddu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fe wnaeth Robert Buckland fanteisio ar fod ar y Maes i ddangos ei gefnogaeth i’r nod.

“Mae cydraddoldeb rhwng y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol os ydym am sicrhau bod pobol yn gallu byw eu bywydau drwy’r iaith o’u dewis,” meddai.

“Mae swyddfa Ysgrifennydd Cymru, wrth gwrs, yn adran arweiniol yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg a Chymru.

“Gwnawn beth bynnag allwn ni i fod yn hyrwyddwr dros yr iaith wrth galon y Deyrnas Unedig.”

Wrth siarad â’r wasg, dywedodd ei bod yn braf bod ar ymweliad â’r Eisteddfod Genedlaethol a dathlu’r diwylliant Cymreig ar y Maes, a hynny am y tro cyntaf ers tair blynedd.

“Mor dda yw hi, ar lefel bersonol a swyddogol, i mi fod yn ôl ar y Maes,” meddai.

“Rwy’n mawr obeithio, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y byddaf yn cynrychioli pob agwedd ar fywyd Cymru a ddarganfyddwn yma yn ein Heisteddfod Genedlaethol fendigedig.”

Cynrychiolaeth o bob agwedd ar fywyd Cymru yn yr Eisteddfod

“Tra fy mod yn fab balch o Sir Gaerfyrddin, yn wir rwy’ hefyd yn hoff iawn o’r sir fawr hon,” meddai wedyn.

“Ar ôl edrych ar fap o’r Maes bore ’ma, mae’n amlwg fod y gorau o fywyd Cymru yn cael ei gynrychioli yma heddiw.

“Rwy’n edrych ymlaen at gwrdd â’r artistiaid, y cystadleuwyr, y gwirfoddolwyr a’r busnesau sy’n gwneud yr Eisteddfod yn un o’r gwyliau diwylliannol mwyaf bywiog ar draws Ewrop gyfan.

“Roedd yn braf cael fy nghroesawu gan y pwyllgor ac rwy’n edrych ymlaen at glywed mwy ganddyn nhw a Ben Lake am yr hyn sy’n digwydd ar draws Ceredigion, a thrafod sut y gallwn barhau i gydweithio i wella bywydau pobol y sir hon.”