Bydd Cyngor Sir Powys yn ceisio agor ysgolion mewn ardaloedd Seisnig mewn ymgais i gynyddu nifer y disgyblion sy’n cael eu dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob pwnc.

Yng nghyfarfod Cabinet y Cyngor yr wythnos ddiwethaf, tynnodd cynghorwyr sylw at y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi’i ddiweddaru a’i gytuno â Llywodraeth Cymru ac a fydd yn dod i rym ym mis Medi.

Cafodd y ddogfen wreiddiol ei chymeradwyo yn barod i’w chyflwyno i Lywodraeth Cymru gan y weinyddiaeth flaenorol ym mis Ionawr.

Un o brif amcanion y cynllun strategol yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg ym Mlwyddyn 1 o 22.6% yn 2020-21 i 36% erbyn 2032.

Er mwyn gwneud hyn, gellid creu tair ysgol Gymraeg i blant o bob oedran ym Mhowys fel rhan o’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.

Dywedodd Lynette Lovell, y Cyfarwyddwr Addysg, wrth gynghorwyr fod fersiwn wedi’i diweddaru wedi’i hanfon yn ôl i Gaerdydd yn dilyn adborth ar y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg gan Lywodraeth Cymru.

Ond doedd amserlenni “ddim yn galluogi” y Cynllun Strategol i ddychwelyd gerbron y Cabinet cyn gorfod ei ailgyflwyno.

Dywedodd wrth y Cabinet ymhellach fod y Cynllun Strategol bellach wedi cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

‘Dulliau newydd’

“Y peth allweddol yma yw ein bod ni’n edrych ar ddulliau newydd o ran sut ydyn ni am ehangu addysg Gymraeg,” meddai’r Cynghorydd Pete Roberts, sydd â chyfrifoldeb am Addysgu Powys.

“Am yn rhy hir, ac nid yn unig yn y sir hon, fe fu’r ffocws ar dyfu’r iaith Gymraeg yn ei chadarnleoedd.

“Rydyn ni am edrych y tu hwnt i hynny – rydym eisoes wedi cynnal trafodaethau ynghylch posibiliadau yn nalgylch [Ysgol Uwchradd] Gwernyfed.”

Ychwanega fod y Cabinet eisoes wedi penderfynu ceisio sefydlu addysg Gymraeg “o’r nesaf peth i ddim” mewn ardaloedd sy’n draddodiadol Seisnig.

“Rydyn ni am fod yn ddewr a rhoi cynnig ar ddulliau arloesol ac ar ddiwedd y pum mlynedd, os nad ydyn ni wedi gwneud rhagor o gynnydd, nid am nad ydyn ni wedi rhoi cynnig arni a cheisio gwneud pethau’n wahanol fydd hynny,” meddai.

Ymhlith y newidiadau i roi hwb i ddeilliannau’r Cynllun Strategol a gafodd eu cytuno gyda Llywodraeth Cymru mae:

  • darparu data ychwanegol mewn perthynas â symud o Gylchoedd Meithrin i ysgolion cynradd Cymraeg
  • cymeradwyo gwybodaeth a chynlluniau’r dyfodol o ran darpariaeth Trochi wedi’u diweddaru i adlewyrchu datblygiadau ar fersiwn flaenorol y Cynllun Strategol, a chynlluniau’r dyfodol
  • sut mae’r Cyngor am wella monitro darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector uwchradd, er mwyn sicrhau nad yw’r ddarpariaeth yn gwaethygu yn y dyfodol
  • ychwanegu gwybodaeth am sgiliau iaith Gymraeg presennol staff ysgolion, sy’n cael ei darparu gan Gyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgolion (SWAC)
  • rhagor o wybodaeth ynghylch lle mae’r Cyngor yn disgwyl bod ar ddiwedd y cyfnod o ddeng mlynedd yn cael ei hychwanegu at y saith o ddeilliannau.