Mae staff rheng flaen a chleifion yn wynebu “ergyd ddwbwl” yn sgil camreolaeth ac “anallu” Llywodraeth Lafur Cymru i reoli sefyllfa gwasanaethau fasgwlaidd yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn ôl Rhun ap Iorwerth.
Daw sylwadau llefarydd iechyd Plaid Cymru yn dilyn adroddiadau damniol sy’n tynnu sylw at “bryderon yn ymwneud â rheoli cleifion aortaidd yn dilyn cwblhau adolygiad o nodiadau 11 o gleifion”.
Cyn i’r gwasanaethau fasgwlaidd gael eu canoli yn 2019, roedden nhw’n “ardderchog, gyda chanlyniadau o safon fyd-eang”, meddai.
Ond mae’n dweud bod “penderfyniadau gwael… wedi difetha’r gwasanaeth”.
‘Adroddiad pryderus arall’
“Mae hwn yn adroddiad pryderus arall am fwrdd iechyd a gafodd ei dynnu allan o fesurau arbennig yn rhy gynnar, ac sydd â llith o fethiannau i’w enw,” meddai Rhun ap Iorwerth.
“Mae Plaid Cymru wedi codi pryderon yn rheolaidd am wasanaethau fasgwlaidd yn Betsi ers iddyn nhw gael eu canoli yn 2019, gan adleisio’r galwadau gan bobol feddygol broffesiynol i’r cyfleusterau yn Ysbyty Gwynedd gael eu cadw.
“Roedd gwasanaeth Ysbyty Gwynedd yn ardderchog, efo canlyniadau o safon fyd-eang.
“Mae penderfyniadau gwael, yr ydyn ni a staff wedi dadlau’n ffyrnig yn eu herbyn, wedi difetha’r gwasanaeth oedd gan gleifion ers talwm.
“Mae staff rheng flaen a chleifion yn cael eu siomi gan ergyd ddwbwl camreolaeth ac anallu Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r sefyllfa.
Mesurau arbennig
Fis diwethaf, cafodd estyniad o’r mesurau ymyrraeth eu cyflwyno gan Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru, ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel eu bod nhw hefyd yn cynnwys Ysbyty Glan Clwyd.
Daeth hynny ar ôl i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nodi yn dilyn ymchwiliad fod angen gwelliannau sylweddol yn Ysbyty Glan Clwyd.
Cafodd pryderon eu nodi yn ystod ymweliad ym mis Mai, gan gynnwys diffyg gweithredu ar argymhellion blaenorol.
Ymyrraeth yw’r ail gam mwyaf difrifol y gall Llywodraeth Cymru ei gymryd ar ôl mesurau arbennig a dywedodd Eluned Morgan ar y pryd fod y camau’n adlewyrchu “pryderon difrifol” ynghylch arweinyddiaeth, llywodraethiant a chynnydd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan gynnwys y gwasanaeth fasgwlaidd a’r uned frys.