Mae Pwyllgor Llên Eisteddfod Ceredigion wedi gofyn i’r artist Malcolm Gwyon o Flaenporth ddarlunio darnau gwreiddiol o saith llenor o Geredigion, sef Caryl Lewis, y Prifardd Dic Jones, Hywel Teifi Edwards, Lyn Ebenezer, Lleucu Roberts, Menna Elfyn a T Llew Jones.

Mae’r arlunydd yn arbenigo mewn paentio portreadau, tirweddau ac eiconau Cymreig, ac yn falch o gael cyfrannu at y prosiect cyffrous hwn.

Adran Addysg Cyngor Sir Ceredigion sydd wedi noddi’r portreadau, a byddan nhw’n cael eu cyflwyno i ysgolion uwchradd y sir wedi’r Brifwyl i gael eu harddangos yn eu cartref parhaol.

Cafodd y portreadau eu dadorchuddio mewn lansiad arbennig ddoe (dydd Sul, Gorffennaf 31), ym Mhentre’ Ceredigion a byddan nhw’n cael eu harddangos yno trwy gydol yr wythnos.

“Diolch i’r Pwyllgor Llên ac i Malcolm Gwyon am eu gwaith a’u gweledigaeth,” meddai’r Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan, cadeirydd y Pwyllgor Llên.

“Credwn y dylwn ddathlu’r cyfoeth o dalent a gynhyrchwyd gan y sir hon.

“Mae’r prosiect yma’n waddol arbennig felly; un a fydd yn ysbrydoliaeth i’r genhedlaeth nesaf o feirdd a llenorion yng Ngheredigion.”

‘Prosiect neilltuol’

“Mae hwn yn brosiect neilltuol i dynnu sylw at rai o lenorion Ceredigion a dathlu traddodiad llenyddol arbennig y sir,” meddai’r Cynghorydd Catrin M S Davies, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredion sydd â chyfrifoldeb am Ddiwylliant, Hamdden a Gwasanaethau Cwsmeriaid.

“Gobeithio bydd gosod y portreadau yn ein hysgolion yn ysbrydoli ein pobol ifanc i fwynhau diwylliant llenyddol a hefyd i werthfawrogi, cymryd rhan ac elwa o’n byd celfyddydol ehangach.”

Ar ôl wythnos yr Eisteddfod, bydd y gweithiau gwreiddiol yn cael eu gosod mewn ysgol uwchradd yn y sir lle mae gan y llenor dan sylw gysylltiad â’r ysgol neu’r ardal honno.

Bydd darlun Hywel Teifi Edwards yn cael cartref yn Ysgol Uwchradd Aberaeron, y Prifardd Dic Jones yn Ysgol Uwchradd Aberteifi, Caryl Lewis yn Ysgol Uwchradd Penglais, Lleucu Roberts yn Ysgol Gyfun Penweddig, Lyn Ebenezer yn Ysgol Henry Richard, Menna Elfyn yn Ysgol Bro Pedr, a T Llew Jones yn Ysgol Bro Teifi.