Wrth i Gymdeithas yr Iaith ddathlu chwedeg mlynedd o ymgyrchu eleni, maen nhw wedi rhybuddio “nad yw’r frwydr ar ben”.

Bydd y mudiad yn cynnal wythnos o ddathlu ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol, fydd yn dechrau â thaith gerdded a beicio o Bont Trefechan i Faes yr Eisteddfod.

Pont Trefechan oedd safle protest gyntaf y mudiad yn 1963, pan eisteddodd myfyrwyr ar draws y bont a rhwystro’r ffordd fel rhan o brotest dros statws i’r Gymraeg.

Bydd y Gymdeithas hefyd yn cyhoeddi maniffesto newydd, Cymru Rydd, Cymru Werdd, Cymru Gymraeg: Cymdeithasiaeth i’r 21ain Ganrif, ddiwedd yr wythnos gan amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

‘Ffordd bell i fynd’

“Mae pethau wedi newid tipyn dros y chwedeg mlynedd ddiwethaf mewn sawl ffordd a rhaid diolch i ymgyrchwyr am sicrhau fod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu,” meddai Tamsin Davies, is-gadeirydd cyfathrebu Cymdeithas yr Iaith.

“Mae’n bwysig i ni gydnabod cyfraniad pawb sydd wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd y Gymdeithas dros y blynyddoedd a dathlu’r llwyddiannau.

“Ond mae ffordd bell i fynd o hyd – mae’r mwyafrif o blant yn dal i gael eu hamddifadu o addysg Gymraeg, does dim hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob sefyllfa ac mae’r Gymraeg dan fygythiad fel iaith gymunedol felly mae angen i ni ddal ati i ymgyrchu.”

‘Nid yw’r frwydr ar ben’

“Mae cymaint allwn ni ddysgu o’r gorffennol, ond mae’r un mor bwysig i ni edrych i’r dyfodol,” meddai Tamsin Davies wedyn.

“Felly hoffem wahodd pawb sydd â diddordeb yn nyfodol y Gymraeg a’n cymunedau i ddod i stondin Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod, i ymaelodi, i ymuno â’n hymgyrchoedd a sefyll dros y Gymraeg a’n cymunedau.

“Nid yw’r frwydr ar ben, ond gyda’n gilydd, mi allwn ei hennill.”