Bydd yr Eisteddfod yn cyflwyno Garry Nicholas fel Cymrawd anrhydeddus newydd y Brifwyl ar lwyfan Tregaron am 6.15yh heno (nos Sadwrn, Gorffennaf 30).

Dyma’r anrhydedd fwyaf y gall yr Eisteddfod ei chynnig i unrhyw un, ac mae’n arwydd o ddiolchgarwch am oes o wasanaeth i’r sefydliad.

Ac mae Garry Nicholas yn un sydd wedi bod â’r Eisteddfod yn agos at ei galon ers degawdau ac sydd wedi gweithio’n ddiflino er ei budd mewn nifer fawr o feysydd.

Anodd fyddai meddwl am unrhyw un sydd wedi gwneud cymaint dros ein gŵyl genedlaethol dros y blynyddoedd.

Cafodd ei fagu ar aelwyd oedd yn caru’r ‘pethe’ ac yn cefnogi’r Eisteddfodau lleol.

Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn – yn y rhai lleol ac yna yn y Genedlaethol.

Dechreuodd gystadlu yn y Genedlaethol o dan 12 oed a bu’n cystadlu’n flynyddol hyd nes iddo ddod yn Feirniad (Llefaru a Drama).

Bu’n Arweinydd Llwyfan yn y Genedlaethol droeon.

Yn 1996, roedd yn un o’r rhai a frwydrodd i gael y Brifwyl i Lanelli yn y flwyddyn 2000 a hynny yn wyneb cystadleuaeth frwd gan Gaerdydd a Thyddewi.

Cafodd ei benodi’n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod honno, eisteddfod a adawodd waddol deg o weithgarwch ac o Gymreictod ar ei hôl.

Ers hynny bu’n gweithio’n ddiflino i’r Brifwyl gan ddal amryw o swyddi – Is Gadeirydd y Cyngor, Cadeirydd y Cyngor, Llywydd y Llys, Cadeirydd y Bwrdd Rheoli a Chadeirydd y Pwyllgor Diwylliannol.

Am gyfnod bu’n gadeirydd panel bychan oedd yn ystyried ffyrdd i wella a datblygu’r Brifwyl ymhellach.

Am sawl blwyddyn, roedd yn llywio Seremoni’r Fedal Wyddoniaeth yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Ar hyn o bryd mae’n Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio.

Mae’r Brifwyl a’i dyfodol yn bwysig iddo ac mae’n cefnogi’r bwriad i ddatblygu rôl y Brifwyl yn y gymuned trwy addasu ac arloesi.

‘Pleser llwyr’

“Mae bod yn rhan o deulu’r Eisteddfod dros y blynyddoedd wedi bod yn bleser llwyr,” meddai Garry Nicholas.

“Ac rydw i’n teimlo fy mod innau wedi elwa cymaint o bob cysylltiad gyda’r Brifwyl.

“Mae cael fy ethol yn Gymrawd, a hynny gan fy nghyfoedion yn anrhydedd heb ei ail ac yn un y bydda i’n ei drysori am byth.”

Mae’r Eisteddfod yn cael ei chynnal ar gyrion Tregaron tan Awst 6.

Am ragor o wybodaeth, ewch i www.eisteddfod.cymru.