Ar ddechrau’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron – yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf i gael ei chynnal am dair blynedd – mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn eu cefnogaeth i’r ŵyl er mwyn sicrhau ei llwyddiant i’r dyfodol.
Tra’n croesawu’r cyllid i’r Eisteddfod Genedlaethol yn ystod pandemig Covid-19 a hefyd y cyllid i gynnig 15,000 o docynnau am ddim, mae Heledd Fychan, llefarydd diwylliant a’r Gymraeg Plaid Cymru, yn credu y dylid darparu mwy o gefnogaeth dros y blynyddoedd nesaf i alluogi’r Eisteddfod Genedlaethol i barhau i esblygu, i hyrwyddo’i hun yn well i gynulleidfaoedd rhyngwladol, a hefyd i ehangu’r ddarpariaeth o docynnau rhad ac am ddim i bobol o bob oed er mwyn i fwy allu cymryd rhan a mwynhau’r hyn sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig.
Gan gyfeirio at lwyddiant y polisi mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni, ac effaith barhaus yr argyfwng costau byw, dywed Heledd Fychan ei bod yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau nad yw cost yn rhwystr i unrhyw un sy’n byw yn ardal yr Eisteddfod rhag gallu mwynhau arlwy’r Maes.
Mae hi’n credu bod hyn yn arbennig o bwysig o ystyried pa mor hanfodol yw codi arian yn lleol i sicrhau bod yr Eisteddfod yn digwydd o flwyddyn i flwyddyn.
‘Parhad y Gymraeg fel iaith fyw a bywiog’
“Mae’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd yn chwarae rhan allweddol o ran hyrwyddo’r iaith Gymraeg a’n diwylliant i bobol o bob oed a chefndir, boed yn siaradwyr iaith gyntaf, yn ddysgwyr Cymraeg neu ddim yn siarad Cymraeg,” meddai Heledd Fychan.
“Wrth deithio i wahanol rannau o Gymru bob blwyddyn, maent yn sefydliadau gwirioneddol genedlaethol ac yn hanfodol o ran sicrhau parhad y Gymraeg fel iaith fyw a bywiog.
“Bydd y creadigrwydd a’r arloesedd a feithrinir ganddynt yn hollbwysig o ran llwyddiant Cymru yn y dyfodol, a dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn ei chefnogaeth i’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn sicrhau eu hyfywedd yn y dyfodol.
“Rhaid i’r Llywodraeth hefyd wneud mwy i wireddu’r potensial drwy hyrwyddo’n Eisteddfodau a’n diwylliant unigryw i gynulleidfaoedd rhyngwladol.
“Mae angen i ni hefyd sicrhau bod mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod mwy o bobol yn gallu fforddio mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol drwy ehangu’r ddarpariaeth o docynnau am ddim.
“Drwy ariannu mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd yn gynharach eleni, fe wnaeth Llywodraeth Cymru sicrhau bod mwy o bobol nag erioed o’r blaen wedi gallu mwynhau’r hyn oedd ar gael.
“Dylent wneud yr un peth ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol fel nad yw cost yn rhwystr i unrhyw un sy’n byw yn yr ardal allu mynychu.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o drefnu’r Eisteddfod a chodi arian yn lleol.
“Bydd yn wych bod yn ôl ar y Maes ac rwy’n siŵr y bydd pob ymwelydd yn mwynhau ac yn cael croeso mawr gan bobl Ceredigion.”