Rydym am ddatgan ein siom personol fel cynghorwyr ac ar ran etholwyr sydd wedi mynegu dicter atom yn Elin Jones, Llywydd y Senedd, aelod lleol o’r Senedd a Cadeirydd Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod yng Ngheredigion, a ddylai fod â mwy o brofiad gwleidyddol ar sut i ddelio gyda’r cyhoedd nag mae wedi dangos yn ddiweddar.

Mae dryswch wedi bod o’r cychwyn am y cynllun tocynnau am ddim i blant a theuluoedd, gan fudiadau ac unigolion a thrueni fod hyn wedi digwydd. Doedd dim angen, a’r peth doeth fyddai cywiro’r camgymeriad a thaenu olew ar y dyfroedd, nid paraffin ar y tân.

Rydym yn cael cwynion anarferol o uchel am yr erthygl Facebook ar esgusodion am gyhuddo pobol Ceredigion o ymddwyn yn anfoesol, yn ddigywilydd a ‘dwyn’ ticedi o ddwylo plant a phobol oedd eu hangen, a hyn fel mae hi o bawb yn gwybod gan fobol sydd wedi cyfrannu yn hael iawn at yr Eisteddfod. Mae’n drist fod rhywun yn meddwl y fath beth yn y lle cyntaf, ond yn waeth fyth yn ei gyhoeddi allan i’r byd ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd mor niweidiol.

Mae llawer o’r boblogaeth leol sydd wedi gweithio ac yn cefnogi’r Eisteddfod yn teimlo ei bod wedi sarnu arnynt a’r Ŵyl, ac er fod y geiriau wedi diflannu o’r cyfryngau, mae wedi gadael blas drwg yn y geg, siom a rhaid dweud brifo.

Ar ôl yr holl waith ac ymdrech mae pawb wedi rhoi tuag at baratoi yr Eisteddfod, gobeithiwn na fydd hyn yn amharu ar lwyddiant ysgubol yr Ŵyl yn Nhregaron a’r Sir.

Bae Ceredgion ni’n hyrwyddo ac amddiffyn, nid bai ar Geredigion.