Bydd Dr Carl Clowes yn cael ei anrhydeddu yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yr wythnos hon.

Meddyg oedd Carl Clowes, a fe oedd sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn a roddodd fywyd newydd i’r pentref.

Yr wythnos hon, mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn cael ei chynnal am y tro cyntaf ers marwolaeth Carl Clowes yn 2021, ac mae digwyddiad arbennig wedi’i drefnu i anrhydeddu ei fywyd a’i waith.

Bydd Cofio Carl yn drafodaeth rhwng Dafydd Iwan, Alun Jones a Francesca Sciarrillo, Eidalwraig a wnaed yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod yr Urdd 2019.

Bywyd a gyrfa

Cafodd Carl Clowes ei eni a’i fagu ym Manceinion, ac er bod ei fam yn Gymraes Gymraeg, ni ddysgodd e Gymraeg nes i’w rieni ddychwelyd i ogledd Cymru.

Dylanwadodd yr wyth mlynedd a dreuliodd fel meddyg ym mhentref Llanaelhaearn yn Llŷn yn fawr arno, ac fe gafodd ei ysbrydoli i ddod yn gadeirydd cyntaf erioed Antur Aelhaearn, y Gymdeithas Gydweithredol gyntaf yn y Deyrnas Unedig a gafodd ei sefydlu i achub yr ysgol leol.

Ond afraid dweud mai ei gamp fwyaf nodedig oedd sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, a roddodd fywyd newydd i bentref Porth y Nant.

Roedd hen bentref chwarelyddol Porth y Nant ger chwarel ithfaen Nant Gwrtheyrn, a gafodd ei agor ym 1861.

Ond yn dilyn cau’r chwarel yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gadawodd y triogolion y pentref, ac aeth yr adeiladau â’u pen iddynt.

Yn 1948, caeodd ysgol Nant Gwrtheyrn ei drysau am y tro olaf, a’r hoelen olaf yn arch y pentref oedd ymadawiad y teulu olaf yn 1959.

Mae gan y pentref bennod liwgar ond byrhoedlog iawn yn ei hanes, pan gafodd ei feddiannu gan hipis y New Atlantis Commune yn ystod y 1970au.

Roedden nhw’n byw yno heb unrhyw gyflenwad dŵr, trydan, na system garthffosiaeth, gan achosi difrod trwy losgi lloriau a drysau a gorchuddio’r waliau â graffiti.

Ond aed i’r ymdrech i adfywio’r pentref, ac erbyn hyn mae’n gartref i ganolfan dysgu Cymraeg, canolfan dreftadaeth, cyfleusterau cynadledda, llety 4 seren, a chaffi.

Marwolaeth a theyrngedau

Cafodd gwaddol Carl Clowes ei amlygu pan fu farw y llynedd ar ôl cyfnod o salwch byr yn 77 mlwydd oed.

Pan fu farw, dywedodd Huw Jones, Cadeirydd presennol Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn fod Cymru wedi colli “un o gymwynaswyr mwyaf y Gymraeg.”

“Roedd Nant yn symbol o ddirywiad cenedl, cymuned, ac iaith,” meddai.

“Ond yn y diwedd daeth yn symbol pwerus o adfywiad y pethau hyn.

“Mae gan holl ddysgwyr ac ymwelwyr Nant Gwrtheyrn le i ddiolch iddo.

“Mae ein colled fel Ymddiriedolaeth yn ddi-fesur.”

Ond yn yr Eisteddfod eleni mae cyfle i ymwelwyr ddathlu gwaddol Carl Clowes.

“Wrth edrych ar Nant Gwrtheyrn yn ei ffurf bresennol, lwyddiannus, mae’n hawdd anghofio ei fod yn arfer bod yn adfail ar ddechrau’r 70au,” meddai Huw Jones wedyn.

“Fe wnaeth gweledigaeth Carl Clowes o roi bywyd newydd iddo trwy ei droi yn ganolfan iaith ysbrydoli cenedl.

“Sbardunodd ymdrech a barodd flynyddoedd cyn troi’r freuddwyd yn realiti.

“Bydd y sesiwn yn gyfle i gofio cyfraniad anferthol Carl Clowes i’r her o hyrwyddo’r iaith a chynnal bywyd cefn gwlad.”

Mae’n briodol y bydd Cofio Carl yn cael ei gynnal yn y Pentre’ Dysgu Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod yn Nhregaron am 12:00pm, dydd Llun, Awst 1.