Mae’r Ysgoloriaeth Artist Ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion wedi’i dyfarnu i’r artist cerameg Elin Hughes o Ddolgellau.

Cafodd yr ysgoloriaeth hon ei sefydlu er mwyn hybu celf a chrefft yng Nghymru, a chaiff ei dyfarnu i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf a dylunio cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr.

Mae’r ysgoloriaeth yn agored i bawb dan 25 oed.

Caiff yr ysgoloriaeth ei dyfarnu i’r ymgeisydd mwyaf addawol er mwyn ei alluogi i ddilyn cwrs mewn ysgol neu goleg celf cydnabyddedig neu fynychu dosbarthiadau meistr.

Mae disgwyl i’r ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer baratoi portffolio a chyflwyno cais yn esbonio sut maen nhw’n bwriadu defnyddio’r ysgoloriaeth.

Ystyrir dangos y gwaith yn Y Lle Celf a chynnig gofod i enillydd yr ysgoloriaeth yn Lle Celf yr Eisteddfod ganlynol.

Yn ogystal â’r ysgoloriaeth o £1,500 bydd Elin Hughes yn cael cynnig gofod i arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol Llyn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf.

Y detholwyr oedd Julia Griffiths Jones, Peter Wakelin a Catrin Webster

“Roeddem wedi gwirioni â sensitifrwydd cerfluniol, nodweddion ffraeth a gwâr ei photiau, sy’n ymdrin â ffurfiau traddodiadol ac yn eu troi’n rhywbeth newydd,” meddai’r tri.

“Mae hi’n astudio cerameg hanesyddol a gwneuthurwyr cynharach ac mae hi’n cymryd ffurfiau ac addurniadau haniaethol i dalu gwrogaeth iddynt wrth eu dadansoddi’n ddychmygus. Mae hi’n edrych ar ei phroses fel metaffor am adnewyddiad.

“Byddwn yn cadw golwg fanwl ar ei datblygiad.”

‘Mae’r gwneud yn frwydr anodd’

“Mae’r llestri’n dechrau ar yr olwyn ond maent yn cael eu rhoi at ei gilydd â llaw, eu hystumio, eu torri, eu rhwygo a’u rhoi’n ôl at ei gilydd, nes eu bod yn gwbl wahanol i’w ffurfiau gwreiddiol,” meddai Elin Hughes wrth ddisgrifio’i gwaith.

“Mae’r gwneud yn frwydr anodd a llawn peryglon yn erbyn disgyrchiant, ac nid yw’n un y byddaf yn ei hennill bob tro, felly o ganlyniad mae’r gwrthrychau hyn mewn cyflwr bregus parhaus.”

Mae hi’n sicr yn gwneud enw iddi hi’i hun.

Yn wreiddiol o ogledd Cymru, mae hi’n dal i fyw a gweithio yn Nolgellau.

Ar ôl graddio o’r BA (Anrh) Serameg yn Ysgol Celf a Dylunio Caerdydd yn 2019, mi wnaeth hi gyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Meistri Ifainc Serameg Maylis Grand ac roedd yn un o ddeg artist a gafodd eu dewis ar gyfer arddangosfa ‘Artistiaid Ifainc Cymru’ MOMA Machynlleth yn 2020.

Ers cyflwyno gwaith i’r Eisteddfod mae wedi cael ei harddangosfa unigol gyntaf, yn Oriel Plas Glyn-y-weddw yn Llanbedrog, ac mae wedi arddangos yn y London Art Fair ac mewn digwyddiad gan y Cyngor Crefftau yn Liberty’s, Llundain.