Mae gwerth blwyddyn a hanner o waith paratoi wedi mynd tuag at sioe’r digrifwr Esyllt Sears ar gyfer Gŵyl Ffrinj Caeredin.
Eleni fydd y tro cyntaf iddi berfformio sioe ar ei phen ei hun yn yr ŵyl, a fydd yn cael ei chynnal rhwng Awst 5 a 29.
Mae gŵyl gelfyddydol fwya’r byd yn dathlu ei phen-blwydd yn 75 oed eleni, a bydd Esyllt Sears yn perfformio ei sioe Absolutely Not yno.
Perfformiodd hi yn yr ŵyl yn 2019 ar y cyd ag artist arall, Eleri Morgan, ond dyma’r tro cyntaf iddi ymddangos yno ar ei phen ei hun a sgrifennu sioe sy’n awr o hyd.
“Dw i yn edrych ymlaen. Does yna ddim middle ground, dw i naill ai’n panicio neu dw i’n hollol llorweddol am y peth. Rydych chi wedi dal fi ar ddiwrnod da!” meddai wrth golwg360.
“Mae’n lot i feddwl amdano. Ers [sgrifennu] darn cyntaf y sioe, mae tua blwyddyn a hanner wedi mynd ers y dechreuad felly mae e wedi bod yn broses hir ond yn broses dw i wir wedi’i mwynhau.
“Dyma fy sioe awr gyntaf i. Mae’n deimlad eithaf daunting, mae e bron fel sgrifennu nofel, dim fy mod i wedi sgrifennu nofel ond fel dw i’n dychmygu fe… ti’n dechrau sgrifennu nofel a ti ddim yn siŵr sut ti’n mynd i ddod allan ohoni ond ti rhy ddwfn mewn i stopio ac mae’n rhaid i ti gario ymlaen.
“Dw i wedi mwynhau’r broses o roi rhywbeth at ei gilydd.”
‘Newid bywyd aelod o’r gynulleidfa’
Gyda sioeau ar gyfer Gŵyl Ffrinj Caeredin, fel arfer mae pobol yn dechrau perfformio sioeau rhagflas tra eu bod nhw dal yn eu hysgrifennu.
“Fe wnes i ddechrau cyn y Nadolig, fe wnes i fy mhreview cyntaf i yng Ngŵyl Gomedi Aberystwyth. Mae’n siŵr fy mod i wedi gwneud ryw ddeuddeg ers hynny, jyst achos ti ddim yn gwybod sut mae’n gweithio heb berfformio fe o flaen pobol,” meddai Esyllt Sears.
“Cyn dy fod di’n mynd lan i’r Ffrinj dw i’n credu bod e’n dda cael previews da a phreviews gwael, a dw i wedi cael y ddau!” meddai, gan ddweud y bydd hi’n dal i wneud newidiadau i’r sioe tan y funud olaf.
Y sioe
“Thema’r sioe ydy fy mod i ddim yn medru trystio neb i ddelio gyda’r cyfryngau pan dw i’n marw. Fe wnes i weithio yn y byd cysylltiadau cyhoeddus am 16 mlynedd, a’r cnewyllyn a’r jôc gyntaf sgrifennes i tua blwyddyn a hanner yn ôl oedd fy mod i wedi dewis llun dw i eisiau i Newyddion 10 ddarlledu pan dw i’n cael fy lladd.
“Mae e’n eithaf tywyll, ond mae e jyst achos dw i ddim yn trystio neb i ddewis y llun iawn ar gyfer prime time news! Mae e i gyd wedi cael ei adeiladu o gwmpas hynna.
“Ond wedyn mae yna agweddau gwahanol ar fy mywyd i’n dod mewn iddo fe, y ffordd dw i’n trio rheoli pethau ond mae lot o bethau tu allan i dy reolaeth di, ac yn y blaen. Dyw e ddim jyst yn sôn ambyti marwolaeth, ond pob agwedd ar fywyd a’r ffordd dydy pethau byth yn gweithio allan fel ti’n ddisgwyl.
“Heb ddatgelu gormod, mae’r diwedd wastad yn newid bywyd un person yn y gynulleidfa.”
Perfformio ar y cyd
Mae’r broses o berfformio yng Nghaeredin yn gallu bod yn “eithaf overwhelming“, meddai Esyllt Sears, ac mae’n help gwneud sioe gyda rhywun arall y tro cyntaf.
“Hyd yn oed y broses o gofrestru, a chael posteri, ac wedyn ti’n gorfod mynd allan a handio flyers allan a thrio perswadio pobol i ddod i’r sioe,” meddai.
“Yn ystod y dydd, mae cannoedd o bobol allan gyda flyers ac os ti ar ben dy hun alla’i ddychmygu bod e’n unig iawn a hefyd ti’n perfformio am fis cyfan ac mae yna rai diwrnodau lle ti ddim am fod yn teimlo’n grêt am dy sioe, efallai wneith neb droi fyny.
“Os oes unrhyw un eisiau perfformio yng Nghaeredin, fydden i yn argymell eu bod nhw’n gwneud e’r tro cyntaf gyda rhywun arall.
“Mae hwn nawr, jyst fi yw e so mae e’n bendant yn fwy daunting.”