Mae’r alwy ôl-syllol yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin eleni wedi ei guradu gan Dr Kim Knowles, arbenigwr ffilm arbrofol o Brifysgol Aberystwyth.

Mae ‘Reframing the Gaze: Experiments in Women’s Filmmaking from 1972 to Now’ yn nodi 50 mlynedd ers Digwyddiad chwedlonol y Merched ym 1972, a gafodd ei drefnu gan yr ysgolheigion ffilm Laura Mulvey a Claire Johnson, ynghyd â Chyfarwyddwr Creadigol yr Ŵyl bryd hynny, Lynda Myles.

Hon oedd yr ŵyl gyntaf yn y Deyrnas Unedig ac yn Ewrop i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar waith gwneuthurwyr ffilmiau benywaidd.

Daw’r rhaglen â detholiad o weithiau hir a byr ynghyd sy’n pwysleisio pwysigrwydd arbrofi ffurfiol a mentro mewn modd creadigol.

Mae’n dangos sut mae artistiaid benywaidd, a’r rhai sy’n eu hadnabod eu hunain fel menywod, wedi gwyrdroi diwylliant ffilmiau patriarchaidd trwy arloesi mewn iaith ffilm.

Bydd yr wyth rhaglen yn rhychwantu dros bum degawd, ac mae’n cynnwys ffilmiau o’r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau, Japan, Ffrainc, Gwlad Belg, yr Almaen, Awstria, Twrci a’r Ariannin.

Yn Uwch Ddarlithydd Ffilmiau Amgen ac Arbrofol yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth, mae Dr Kim Knowles yn gweithio fel Rhaglennydd Ffilmiau Arbrofol yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin ers 2008.

Caiff y digwyddiad ei noddi gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, ac mae’n rhan o becyn tair blynedd sy’n caniatáu i fyfyrwyr ymweld â’r ŵyl â phàs cynrychiolydd, ac sy’n cynnig lleoliadau hyfforddi i fyfyrwyr yr Adran er mwyn iddyn nhw ddysgu am waith curadu a beirniadu ffilmiau.

Caiff 75ain Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin ei chynnal rhwng Awst 12-20.

50 mlynedd ers Digwyddiad chwedlonol y Merched ym 1972

“Mae’r rhaglen yn edrych yn ôl i’r digwyddiad hwnnw ym 1972, ond mae hefyd yn dathlu’r 1970au yn fwy cyffredinol fel degawd allweddol yn hanes sinema merched ac yn natblygiad theori ffilm ffeministaidd,” meddai Dr Kim Knowles.

“Roeddwn am ymdrin â’r rhaglen ôl-syllol hon mewn modd anghonfensiynol.

“Mae gwaith Mulvey wastad wedi fy ysbrydoli, ond nid yw ei ffilmiau mor adnabyddus â’i hysgrifennu.

“Riddles of the Sphinx a’m sbardunodd, ac fe’m hanfonwyd mewn sawl cyfeiriad gwahanol!”