Mae enwau newydd wrth y llyw yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod eleni – a rheiny’n hen lawiau ar drefnu arddangosfeydd celf ac artistiaid.
Fe gafodd Rebecca Hardy-Griffiths, ei gŵr Morgan Griffith a Menna Thomas – sydd ill tri yn artistiaid yn eu hawl eu hunain – eu penodi ar y cyd ym mis Mawrth eleni.
Roedd yr Eisteddfod wedi hysbysebu yn gyhoeddus am Gydlynydd a Churadur Celfyddydau Gweledol ac roedd modd ymgeisio am y ddwy neu un o’r swyddi.
“Mi wnaethon ni weld hysbys a meddwl ‘mae hyn yn brofiad anhygoel,’” meddai Rebecca Hardy-Griffiths, sy’n byw ym Methesda.
“Dw i wrth fy modd yn curadu ac yn gosod gwaith. Dyna ydi f’anrhydedd i o ran unrhyw sioe arddangosfa… Bod y gwaith celf yn cael ei ddangos mewn ffordd unigryw a diddorol.”
Cyn ymgymryd â’r swydd yma a mynd yn artist llawrydd hefyd, Rebecca Hardy-Griffiths oedd Cydlynydd Celfyddydau Galeri, Caernarfon. Menna Thomas oedd ei rhagflaenydd yn y swydd honno, digwydd bod. Mae hi bellach hefyd yn gydlynydd project celfyddydol CARN yng Nghaernarfon.
Mae’r tri yn olynu Robyn Tomos, y cyn-Swyddog Celfyddydau Gweledol, a ymddeolodd o’r swydd yn 2021 ar ôl blynyddoedd o wasanaeth, ac a oedd yn uchel ei barch.
Fe fydd agoriad swyddogol Y Lle Celf yn digwydd ar ddiwedd prynhawn Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, Gorffennaf 30.
Yn ôl y newydd-ddyfodiaid, fe fydd Y Lle Celf ychydig yn wahanol eleni – ond yn dal i gynnig y pethau traddodiadol.
“Byddwch chi’n gweld pethau traddodiadol fel y catalog, gwobr Dewis y Bobol, a’r gwobrwyon ychwanegol ond mae elfennau newydd eleni,” meddai Rebecca Hardy-Griffiths.
“Mae yna leisiau a llygadau newydd.”
‘Lle ofnadwy o bwysig’
Mae ei gŵr Morgan Griffith, artist sy’n gweithio gyda collage, wedi mwynhau bod yn rhan o’r gwaith trefnu, a chael “bod ar yr ochr arall.”
Fel artist, cyflwynodd ei waith yn Y Lle Celf tua hanner dwsin o weithiau yn y gorffennol.
“Mae o’n grêt,” meddai.
“Mae o’n gyffrous iawn cael gweld yr holl broses ac yn gweld ein planiau ni’n dod yn fyw. O’r adeg yn Aberystwyth lle’r oedden ni’n helpu’r detholwyr, i rŵan.
“Unwaith y flwyddyn rydych chi’n cael dangos eich gwaith yn rhywle sy’n bwysig iawn i’r celfyddydau yng Nghymru. Mae o’n fraint i unrhyw artist o unrhyw oed.”
“Yn Y Lle Celf, mae yna gymysgedd o artistiaid sydd newydd raddio, artistiaid sydd yng nghanol eu gyrfa, yn dangos wrth ymyl enwau mawr,” meddai Rebecca Hardy-Griffiths.
“Dyna sy’n wych am yr arddangosfa. Cystadleuaeth gelfyddydol ydi o, lle gall unrhyw artist roi eu gwaith i mewn.
“Mae o’n ofnadwy o bwysig. Rydan ni’n cefnogi barddoniaeth, sgrifennu creadigol, drama, theatr… rydan ni’n wlad ofnadwy o greadigol ond mae celf weledol yn rhywbeth sydd angen mwy o glod yn fy marn i.”
Llyfryn i blant
Elfen arall newydd eleni fydd llyfryn bach o weithgareddau i blant i’w ddefnyddio wrth iddyn nhw fynd o gwmpas yr arddangosfa.
“Roedd o’n syniad roedden ni wedi bod eisie o’r cychwyn,” meddai Menna Thomas. “Gweithgaredd i’r teulu i allu gwneud efo’i gilydd pan fyddan nhw’n ymweld â’r lle, ac i fwynhau’r celf efo’i gilydd.”
Fe fydd yna bensiliau lliw, darluniau lliwio, a holiaduron a phosau bach er mwyn i blant chwilio am bethau o gwmpas yr oriel.
“Mae o damaid bach fel helfa gelf,” meddai Rebecca Hardy-Griffiths.
“Mae yna ychydig bach o ddarlunio, a thudalen hyfryd am liwiau iddyn nhw ddechrau feddwl am lliwiau eilradd a chynradd a lliwiau sy’n cyd-fynd efo’i gilydd.
“Pan ydach chi’n mynd i orielau fel y Tate yn Lerpwl, mae ganddyn nhw lyfryn bach hyfryd ac mae o’n agor eu llygadau nhw bach mwy. Mae ei wneud o efo teulu yn hyfryd.”
Anrhydeddau a gwobrau
Mi wnaeth y trefnwyr gyhoeddi enwau’r artistiaid fydd yn cyflwyno’u gwaith eleni ar gyfrif Instagram a Facebook Y Lle Celf rai wythnos yn ôl.
Artistiaid Y Lle Celf eleni yw Susan Adams, Justine Allison, Duncan Ayscough, Glyn Baines, Zena Blackwell, Peter Bodenham, Zillah Bowes, Adam Buick, Hannah Cash, Carl Chapple, Sonia Cunningham, Natalia Dias, Michelle Dovey, Kim Dewsbury, Heather Eastes, Ken Elias, Geraint Ross Evans, Anna Falcini, Alice Forward, Lizz Gill, Kate Haywood, Rauni Higson, Christopher Holloway, Elin Hughes, Dilys Jackson, Llio James, Sian Wroe Jones, Elfyn Lewis, Gwenllian Llwyd, Nerea Martinez de Lecea, Daniel May, James Moore, Sara Moorhouse, Martine Ormerod, Fflur Cadwaladr Owen, Philippa Robbins, Mia Roberts, Ruth Shelley, Laura Thomas, Seán Vicary, Philip Watkins, Stephen West ac Emrys Williams.
Y detholwyr yw’r curadur Jill Piercy, yr awdur a’r curadur Peter Wakelin, a’r artist Catrin Webster.
Bydd anrhydeddau a gwobrwyon yn cael eu rhoi yn yr adrannau yma – Medal Aur am Gelfyddydau Gain (a £5,000), Medal Aur am Grefft a Dylunio (a £5,000), ac Ysgoloriaeth Artistiaid Ifanc o £1,500.
Bydd agoriad swyddogol a seremoni wobrwyo Y Lle Celf yn digwydd am 5 o’r gloch ddydd Sadwrn, Gorffennaf 30, yn Y Lle Celf ar Faes yr Eisteddfod.