Ydach chi’n cofio Toast Toppers, Arctic Roll neu Findus Crispy Pancakes? Dach chi’n cofio’r tro cynta’ i chi weld afocado neu flasu hufen ia? Ydy arogl rhai bwydydd yn mynd a chi nol i’ch plentyndod neu wyliau hudolus yn yr haul? Be dach chi’n estyn amdano i wella hangofyr? Mae’r gyfres newydd yma’n bwrw golwg ar atgofion rhai o wynebau cyfarwydd Cymru am fwyd a sut mae hynny wedi dylanwadu eu harferion bwyta heddiw. Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol sydd Ar Blât yr wythnos hon…


Ffaggots

Dw i’n cofio eistedd yn nhŷ Mam (‘Mam’ o’n i’n galw mam fy nhad a Mam-gu o’n i’n galw mam fy Mam) a’i gwylio hi’n coginio. Byddai hi’n gwneud bara ddwywaith yr wythnos a digon i’r stryd gyfan! Unwaith y mis byddai hi’n gwneud ffagots, yn cychwyn drwy greu briwgig o’r plwc a’u lapio mewn leinin stumog. Pob dydd Sul byddai cinio gyda dau ddarn o gig, saws bara, y pwdin Efrog mwyaf erioed a digon o lysiau i alw chi arnyn nhw, ac eclairs i goroni’r cyfan.

 

Roedd fy nhad am fod yn gogydd, ond roedd ei fam am iddo gael swydd 9-5, ac felly aeth yn beiriannydd sifil. Ond doedd y diddordeb mewn bwyd erioed wedi pylu. Roedd e’n teithio’n fynych gyda gwaith, felly anaml iawn y byddai fe adre yn yr wythnos mewn amser i goginio swper, ond pob dydd Sadwrn byddai fe wrth ei fodd yn gwneud gwledd i ni. O stroganoff, i gyri o scratch, i Crepes Suzette – roedd pob dim yn hyfryd ond doedd e ddim yn un am olchi lan wrth iddo fynd!

Parmigiana

Y peth dw i’n troi ato pan fydda’i eisiau cysur ydy caserol llysieuol y’n fam, pob llysieuyn sy’n yr oergell mewn grefi trwchus, neu frechdan gaws a phicls Mamgu.

Fy mhryd bwyd delfrydol fyddai Parmigiana wylys [aubergine] bob tro, yn ddelfrydol yn Fenis mewn stryd gefn i ffwrdd o rialtwch twristiaid. Os nad hynny, yn Calabrisella [bwyty Eidalaidd] yn Nhreganna.

Tomatos o’r tŷ gwydr, a’u bwyta nhw, fel afal, yn syth ar ôl eu tynnu, sy’n dod a llu o atgofion o’r Haf yn ôl ata’i.

Tarte Tatin

Os oes rhywun yn dod i fwyd, y pryd dw i’n troi ato ydy corgimychiaid mewn gwin a tsili i gychwyn, bourguignon fel prif gwrs, a tarte tatin i bwdin. Wy wastad yn bwriadu gwneud rhywbeth gwahanol ond alla’i wneud rhain yn fy nghwsg, felly rhain sy’n ennill! Ond os yw’n chwaer yn dod draw, escalope ffowlyn sy’n cael ei weini, mae hi wedi hen laru arno, ond mae’n jôc deuluol bellach.

Mae gan fy chwaer lyfrgell o lyfrau coginio a dw i ddim yn gor-ddweud. Os ydw i eisiau creu rhywbeth gwahanol, fe wna’i fynd lawr i’w thŷ i bori drwy’r llyfrau coginio, ac mae’n brofiad pleserus iawn achos gaf i lasied o win ganddi i’n helpu ar y daith.

Un o salads Yotam Ottolenghi

Os oes yna un llyfr y basen i’n cynnig i bawb gael yn eu cartref, yn arbennig os fydd llysfwytäwr fel fi’n galw draw, yna un o lyfrau [Yotam] Ottolenghi amdani. Mae yna saladau na welwyd mo’u tebyg ynddyn nhw ac mae’n tynnu dŵr i’n ddannedd yn meddwl amdanyn nhw.

 

Fe fydd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn Nhregaron rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst.