Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi codi pryderon am lesiant plant, ar ôl iddi ddod i’r amlwg fod gwariant cynghorau ar weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio i asiantaethau wedi cynyddu.
Yn ôl ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth, roedd 376 o weithwyr cymdeithasol sy’n gweithio i asiantaethau yn cael eu cyflogi gan gynghorau Cymru’r llynedd, a’r gost yn £20,423,189.
Roedd hynny’n gynnydd o 365 a £18,522,072 yn 2020/21, a chynnydd o 279 a £16,149,980 o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
Mae dibyniaeth awdurdodau lleol ar weithwyr cymdeithasol o asiantaethau wedi dod yn hysbys ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod gan gyngor yn Lloegr – wnaeth gyfaddef eu bod nhw wedi methu ag atal llofruddiaeth merch 16 mis oed, Star Hobson – broblemau difrifol wrth ddal gafael ar staff yn eu gwasanaethau plant.
Y llynedd, fe wnaeth Cyngor Bradford wario £12.3m ar staff o asiantaethau, sydd fel arfer yn staff dros dro.
Fe wnaeth pum cyngor yng Nghymru yn yr un cyfnod wario dros £1m ar weithwyr cymdeithasol o asiantaethau.
Caerdydd wariodd y mwyaf (£5.4m), yna Powys (£4.4m), Merthyr Tudful (£3.3m), Sir Benfro (£1.4m) a Rhondda Cynon Taf (£1.3m).
Powys wnaeth gyflogi’r nifer uchaf o weithwyr cymdeithasol o asiantaethau – 105 o gymharu â 103 yng Nghaerdydd.
Ni wnaeth Pen-y-bont ar Ogwr, Conwy, Ceredigion na Wrecsam ymateb i’r cais mewn pryd, doedd gan Sir Fynwy ddim ystadegau penodol, a doedd Merthyr Tudful, Abertawe a Rhondda Cynon Taf ond yn gallu cynnig y costau.
‘Angen presenoldeb cryf’
Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig y cais ar ôl i Mark Drakeford wrthod cynnal adolygiad i wasanaethau plant Cymru.
Cafodd galwadau am ymchwiliad eu gwneud ar ôl llofruddiaeth Logan Mwangi ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
“Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o brinder staff yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol Cymru ers tro nawr, ymhell cyn y prinderau llafur presennol dros y Deyrnas Unedig, a dyna sy’n gwneud dibyniaeth cynghorau ar weithwyr o asiantaethau mor bryderus,” meddai Gareth Davies, llefarydd gwasanaethau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, wrth ymateb i’r ystadegau.
“Rydyn ni wedi gweld achosion trasig fel rhai Star Hobson a Logan Mwangi sy’n dangos yr angen am bresenoldeb cryf gan y gwasanaethau cymdeithasol.
“All hyn ddim digwydd pan mae cynghorau mor ddibynnol ar staff o asiantaethau oherwydd mae penodiadau parhaol yn arwain at ganlyniadau gwell gan fod rhywun yn ymdrin ag achosion mewn ffordd gyson.
“Dyna pam ei bod hi’n syfrdanol gweld bod cannoedd yn cael eu cyflogi bob blwyddyn, gyda chost sylweddol i drethdalwyr, costau fyddai’n cael eu cwtogi pe bai adnoddau’n canolbwyntio ar dalu staff parhaol yn hytrach na thalu asiantaethau.
“Dw i’n meddwl bod ein canfyddiadau’n cefnogi ein galwadau ar gyfer adolygiad i wasanaethau cymdeithasol Cymru gyfan, yn enwedig gan mai Cymru yw’r unig genedl ym Mhrydain sydd ddim yn cynnal un ac sydd â’r gyfradd waethaf o ran edrych ar ôl plant yn y Deyrnas Unedig – rhywbeth sy’n gwneud penderfyniad Mark Drakeford i wrthod adolygiad mor siomedig.”
‘Gweithredu nid adolygiad’
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “gweithredu sydd angen nawr, nid cynnal adolygiad arall”.
“Mae gennym eisoes raglen uchelgeisiol i drawsnewid Gwasanaethau Plant yng Nghymru, sy’n seiliedig ar amrywiol adolygiadau a gwaith ymchwil annibynnol,” meddai.
“Yr wythnos hon, cafodd pecyn cymorth ychwanegol gwerth £3.5 miliwn ei gyhoeddi gennym ar gyfer myfyrwyr gwaith cymdeithasol.
“Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhan o’n gwaith i recriwtio rhagor o weithwyr cymdeithasol, ac mae hyn yn cynnwys datblygu cynllun y gweithlu ar gyfer y sector.”