Does gan weithwyr rheilffyrdd “ddim opsiwn arall” oni bai am streicio, meddai un o drefnwyr undeb RMT wrth golwg360.

Mae dros 40,000 o weithwyr rheilffyrdd, sy’n aelodau o undeb RMT dros y Deyrnas Unedig, yn cymryd rhan mewn streic dros gyflogau ac amodau heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 27).

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi annog pobol i beidio teithio ar drenau oni bai bod hynny’n angenrheidiol, a dim ond llond llaw o drenau sy’n rhedeg heddiw.

Dydy Trafnidiaeth Cymru ddim yn rhan o’r ddadl, ond gan mai Network Rail sy’n cynnal nifer o wasanaethau Cymru, mae hynny’n cael effaith ar wasanaethau yma.

Mae disgwyl i weithwyr RMT streicio ar Awst 18 a 20 hefyd, ac fe wnaethon nhw gynnal cyfres o streiciau fis diwethaf.

‘Dim opsiwn arall’

Yn ôl Steve Skelly, trefnydd rhanbarthol RMT ar gyfer de Cymru a de Lloegr, mae pobol wedi cael llond bol ar weithio’n galed ac yna dioddef ymosodiadau ar eu cyflogau ac amodau eu cyflogaeth.

“Rydyn ni wedi bod yn trafod gyda Network Rail a’r cwmnïau gweithredu’r rheilffyrdd ers tua dwy flynedd nawr achos roedden ni’n ymwybodol bod newidiadau sylweddol maen nhw eisiau eu gwneud i’r diwydiant,” meddai wrth golwg360.

“Yn anffodus, mae tair rhan i’r ddadl. Rydyn ni’n mynd ar ôl y cyflogwyr am sicrwydd na fydd yna ddiswyddiadau gorfodol o dan unrhyw gynnig, ac na fydd yna unrhyw newid i delerau ac amodau gweithwyr heb gytuno ar hynny o flaen llaw.

“Yn drydydd, o ran ein haelodau’n derbyn codiad cyflog – mewn rhai achosion mae eu cyflog wedi’i rewi ers tair blynedd ac yn anffodus dydy’r cynigion rydyn ni wedi’u derbyn hyd yn hyn ddim wedi bod yn ddigonol.

“Maen nhw wedi methu â chynnig y sicrwydd rydyn ni’n chwilio amdano.

“Felly yn anffodus, does gan ein haelodau ddim opsiwn arall oni bai am weithredu’n ddiwydiannol er mwyn amddiffyn buddion ein haelodau.”

Mae gweithwyr rheilffyrdd yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd, meddai Steve Skelly, gan ddweud bod yr un peth yn wir am y gymdeithas yn ehangach yn sgil costau cynyddol.

“Pan rydych chi ar eich trydedd blwyddyn o rewi cyflog, mae hynny’n cynrychioli toriad cyflog anferth mewn termau real o ran incwm gwariadwy pobol ac ati. Y realiti yw bod pobol yn ei chael hi’n anodd,” meddai.

“Chwedl gyffredin sy’n cael ei rhannu gan y wasg yw bod y rhan fwyaf [o weithwyr rheilffyrdd] ar gyflogau o £60,000+ ond y cyflog canolrifol ydy tua £31,000 ar gyfer gweithwyr rheilffyrdd ac ein haelodau.”

‘Annerbyniol’

Dywed Steve Skelly fod addewidion Liz Truss i fod yn fwy llawdrwm ar undebau llafur a’i gwneud hi’n anoddach cynnal streiciau pe bai’n dod yn Brif Weinidog yn “annerbyniol”.

“Mae’r sylwadau i gyd yn rhy ragweladwy gan y Llywodraeth Dorïaidd. Yn hytrach nag ystyried eistedd lawr ac ymgysylltu’n ystyriol ag undebau llafur maen nhw’n trio cyflwyno deddfwriaeth undebau llafur ddraconaidd,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae gennym ni’n ddeddfwriaethau gwrth-undebau llafur a’r cyfreithiau llafur mwyaf cyfyngedig yng ngorllewin Ewrop, ac yn anffodus dydy’r llywodraeth ddim fel eu bod nhw’n meddwl bod hynny ddigon da ac maen nhw eisiau mynd â phethau ymhellach.

“Mae’n gwbl annerbyniol, ac mae’n mynd yn erbyn democratiaeth.”

‘Pobol wedi cael llond bol’

Mae Steve Skelly wedi bod yng Nghaerdydd a Phort Talbot gyda streicwyr fore heddiw, ac roedd y gefnogaeth yn wych yn y ddau le, meddai.

“Ar y cyfan, mae’r gefnogaeth gan y cyhoedd wedi bod yn wych, yn arbennig… a dw i’n meddwl ei fod yn arwydd clir bod pobol weithiol yn y wlad wedi cael llond bol ar anghydraddoldeb incwm,” meddai Steve Skelly, fydd yn cymryd rhan yn y streic yn Abertawe brynhawn heddiw hefyd.

“Maen nhw wedi cael llond bol ar bobol yn gweithio’n galed a chael eu hymosod, cael ymosodiadau ar eu hamodau cyflogaeth pan mae yna, fyswn i’n dweud, ddewis gwleidyddol amlwg.

“Mae yna ddigon o arian i’r cyfoethog, mae yna fwy o biliwnyddion nag erioed o’r blaen yn y wlad, mwy o gyfoeth nag erioed, ond mae’n cael ei gyfeirio i’r llefydd anghywir.”

Gofyn am dâl teg yn ystod argyfwng costau byw yn “hollol ddilys”

Cadi Dafydd

Luke Fletcher yn gobeithio y bydd streic y rheilffyrdd yn rhoi anogaeth a hyder i weithwyr mewn sectorau eraill i ofyn am well tâl ac amodau