Mae mwy na 1,000 o drigolion Ceredigion wedi llofnodi deiseb yn galw ar y cyngor sir i roi’r gorau i ddefnyddio banc Barclays.
Roedd uwch gynghorwyr wedi cael gwybod mewn cyfarfod ddoe (dydd Mawrth, Gorffennaf 26) y byddai’r “gwasanaeth perthnasol” yn ymdrin â deiseb o’r enw “Ewch â’n treth gyngor allan o Barclays”.
Wnaeth Cabinet Cyngor Sir Ceredigion ddim trafod y ddeiseb a gafodd ei sefydlu gan yr ymgyrchwyr amgylcheddol Gwrthryfel Difodiant, ond mae adroddiad o’r cyfarfod yn nodi bod oddeutu 1,100 wedi ei llofnodi hi.
“Mae trigolion Ceredigion yn gofyn bod y Cyngor Sir yn rhoi’r gorau i dalu ein trethi i Barclays y mae’n hysbys mai nhw yw’r banc mwyaf brwnt yn Ewrop,” meddai.
“Hwn yw’r gwaethaf am ariannu tanwydd ffosil, y mae’r Asiantaeth Ynni Ryngwladol yn dweud bod rhaid iddo ddod i ben nawr os ydyn ni am osgoi digwyddiadau tywydd eithafol, mae’n arweinydd mewn datgoedwigo a dydy eu cyfranddalwyr ddim yn cymryd unrhyw gyfrifoldeb am ddinistrio bywydau pobol frodorol.
“Yn hytrach, dylem ddal ein harian mewn banc sydd â sgôr moeseg da.
“Ar hyn o bryd, Triodos yw’r unig fanc sydd â sgôr moeseg da a chyfleusterau cyfrif banc diogel ar gyfer cynghorau a thrigolion, ond rydym yn gobeithio y bydd eraill yn dilyn.”
Mae Gwrthryfel Difodiant wedi cynnal protestiadau tebyg yn erbyn Barclays ac mewn banciau eraill ar y stryd fawr, ledled y Deyrnas Unedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.