Dim ond unwaith y flwyddyn y bydd angen i’r mwyafrif o oedolion yng Nghymru weld deintyddion y Gwasanaeth Iechyd o hyn ymlaen.
Bydd y newidiadau yn ei gwneud hi’n haws i fwy o bobol gael gofal deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, yn ôl Prif Swyddog Deintyddol Cymru.
Yn ôl Andrew Dickenson, bydd y newid o apwyntiadau bob chwe mis yn golygu bod deintyddion yn gallu canolbwyntio ar y bobol sydd angen mwy o gymorth.
Bydd hefyd yn galluogi practisau i dderbyn hyd at 112,000 o gleifion newydd y flwyddyn, a fydd yn cael eu trin gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, meddai Llywodraeth Cymru.
Dros y ddau ddegawd diwethaf, fe fu gostyngiad cyson mewn pydredd dannedd. Erbyn hyn, mae mwy o oedolion yn cadw eu dannedd ac fe fu gostyngiad cyson yn nifer y bobol sydd â dannedd gosod.
Fe fydd deintyddion yn creu cynllun gofal personol gyda phobol, ac yn eu cynghori ynglŷn â pha mor aml mae angen iddyn nhw gael archwiliadau.
Dan y drefn newydd, bydd pobol sydd angen gofal amlach nag archwiliadau unwaith y flwyddyn yn gallu cael eu gweld yn fwy rheolaidd.
Bydd plant a phobol ifanc dau 18 oed yn parhau i gael archwiliadau bob chwe mis.
‘Haws derbyn cleifion newydd’
“Bellach, mae pobol yn llawer gwell o ran cynnal iechyd y geg,” meddai’r Athro Andrew Dickenson.
“Mae hyn, ynghyd â gwasanaeth rhagorol ein deintyddion, yn adlewyrchu manteision brwsio’r dannedd ddwywaith y dydd, yr arfer gyffredin o ddefnyddio past dannedd fflworid, ac osgoi byrbrydau a diodydd llawn siwgr rhwng prydau bwyd.
“Does dim angen i’r mwyafrif o oedolion weld eu deintydd bob chwe mis bellach.
“Drwy symud oddi wrth archwiliadau sy’n aml yn ddiangen, bydd gan ddeintyddion fwy o amser i ddarparu’r gofal personol ac wedi’i deilwra sydd ei angen ar bobl, a bydd yn haws derbyn cleifion newydd i gael eu trin gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”
Mae Llywodraeth Cymru am recriwtio mwy o ddeintyddion a staff deintyddol hefyd drwy gynnig cymorth fel y gall myfyrwyr ddod o hyd i leoliadau gyda phractisau yng Nghymru a thrwy ddatblygu trefniadau gweithio newydd i ddenu mwy o ddeintyddion i weithio yn y wlad.
“Drwy gynyddu nifer y deintyddion a’u helpu i weithio’n wahanol gyda’u cleifion, gallwn sicrhau bod pawb yng Nghymru sydd am gael gofal deintyddol y GIG yn gallu cael y gofal hwnnw,” meddai’r Athro Andrew Dickenson wedyn.
‘Helpu’r ôl-groniad’
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu’r newid, ond yn rhybuddio Llywodraeth Cymru i beidio â’i weld fel datrysiad syml i broblem anodd.
“Dw i’n croesawu’r newid heddiw tuag at archwiliadau deintyddol blynyddol a dw i’n meddwl y bydd yn helpu gyda’r ôl-groniad yng ngwasanaeth deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol heb effeithio’n ddifrifol ar gleifion – ond mae hi’n bwysig peidio â’i ystyried fel datrysiad syml i broblem anodd,” meddai Russell George, llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig.
“Fodd bynnag, mae hyn yn ddatrysiad ymarferol i broblem sydd wedi cael ei gwaethygu gan y Llywodraeth Lafur ei hun yn sgil blynyddoedd o dan-gyllido o gymharu â’r cenhedloedd datganoledig eraill ac anallu i baratoi ar gyfer y galw oedd am gronni’n ystod y pandemig.
“Rydyn ni wedi bod yn dweud ers misoedd bod yr agwedd hon tuag at ddeintyddiaeth am greu anialwch deintyddol dros Gymru, gan arwain at bobol yn gorfod gwario miloedd ar driniaeth breifat neu’n gorfod tynnu eu dannedd eu hunain.
“Mae angen i Lafur gael gafael ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a stopio torri’r holl records anghywir.”
‘Gwneud dim byd i fynd i’r afael â’r argyfwng staffio difrifol’
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi croesawu’r cyhoeddiad, ond yn dal i boeni am “argyfwng staffio difrifol”.
“Tra fy mod i’n croesawu’r cyhoeddiad ymarferol heddiw ar apwyntiadau gwirio ar y cyfan, ddylai Llafur ddim bod wedi gadael iddi gyrraedd y pwynt yma,” meddai’r arweinydd Jane Dodds.
“Dydy’r cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru ddim yn gwneud dim byd i fynd i’r afael â’r argyfwng staffio difrifol yn y sector, sef y brif broblem yn nhermau clirio’r ôl-groniad.
“Mae ymchwil gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn dangos bod 14% o ddeintyddion yng Nghymru’n disgwyl ymddeol yn fuan, gyda’r ffigwr mor uchel â 20% mewn rhai byrddau iechyd.
“Rhaid i ni fynd i’r afael â’r argyfwng staffio os ydyn ni am fynd i’r afael â’r amserau aros uchel iawn ar gyfer triniaeth ddeintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.”