Mae cyfanwerthwr gwin o’r de wedi penderfynu gadael y Deyrnas Unedig yn sgil costau gwaith papur ôl-Brexit.

Yn ôl David Lambert, sy’n cyflenwi gwin i ryw 300 o siopau, gan gynnwys Marks & Spencers, “mae Brexit yn dinistrio’r wlad” a does ganddo ddim dewis ond symud i Montpelier yn Ffrainc.

Bydd yn sefydlu cwmni yno er mwyn gallu allforio’n ôl i’w gwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Bob blwyddyn, mae Daniel Lambert Wines yn mewnforio dros ddwy filiwn potel o win i’r Deyrnas Unedig, a chyn Brexit, roedd hi’n broses eithaf syml mewnforio gwin o’r Undeb Ewropeaidd.

“Y ffaith fy mod i’n gallu parhau yn y Deyrnas Unedig a Ffrainc a bod mor broffidiol ag yr oedden ni’n arfer bod drwy gael ail endid cyfreithiol yn yr Undeb Ewropeaidd” sydd wedi arwain at benderfyniad Daniel Lambert i symud i Ffrainc, meddai.

“Heb gael busnes yno, rydyn ni’n gorfod talu’r costau uchel sydd wedi cael eu gorfodi ar fusnesau yn y Deyrnas Unedig er mwyn cludo pethau dros y ffin [o’r Undeb Ewropeaidd] gan froceriaid sydd fwy neu lai yn actio fel cartel ar y funud, ac yn gallu gwneud beth bynnag maen nhw eisiau wrth godi ffioedd oherwydd y capasiti cyfyngedig yn y farchnad,” eglura wrth golwg360.

Yn sgil cymhlethdod y gwaith papur sy’n gysylltiedig â mewnforio alcohol i’r Deyrnas Unedig, mae nifer o gludwyr wedi gadael y sector ac felly mae’r ychydig gwmnïau sydd ar ôl wedi codi’u prisiau.

Sicrhau busnes ‘cystadleuol’

Wrth sefydlu cwmni yn Ffrainc, bydd Daniel Lambert yn gallu cofrestru er mwyn allforio i Brydain.

Drwy hynny, bydd yn gallu mewnforio ac allforio’n gyfreithlon heb orfod dibynnu ar gwmnïau cludo sy’n codi miloedd am y gwaith papur.

“Bydd gallu rheoli’r gwaith papur ein hunain yn y busnes, a pheidio gorfod talu i wneud y gwaith papur drwy gofrestru ein hunain i’w wneud yn fewnol yn dipyn rhatach ac yn cynnal pa mor gystadleuol ydyn ni,” meddai.

“Dydy hi ond yn bosib cael busnes Ewropeaidd os oes gennych chi endid ffisegol yno neu eich bod chi yno mewn person, felly dyna’r casgliad ddaethom ni iddi.

“Rydyn ni yn y diwydiant alcohol, sy’n cyfri fel nwyddau tollau (excise) – mae nwyddau tollau wedi cael eu heffeithio gan holl waith papur Brexit a’r cyfyngiadau o’r diwrnod cyntaf.

“Mae’r llywodraeth yn rheoli nwyddau tollau yn eithaf manwl, fel y gallwch ddisgwyl, oherwydd bod lot o dreth arnyn nhw.

“Dydy lot o bobol ddim yn sylwi, ond y dreth ar alcohol yw’r dreth hynaf yn y Deyrnas Unedig – cafodd ei chyflwyno yn 1641.”

‘Dinistrio’r wlad’

Wrth ymateb i’r newyddion, dywed Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, fod y cam yn “ergyd fawr i economi de Cymru ac yn dangos effaith mor ddifrifol mae Cytundeb Brexit blêr y Torïaid yn ei chael ar fusnesau Cymru”.

“Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn dweud yn glir bod rhaid i ni ystyried ailymuno â’r Farchnad Sengl,” meddai.

Mae Daniel Lambert yn cytuno bod angen ystyried ailymuno â’r Farchnad Sengl.

“Dw i wedi siarad efo Jane ambell waith dros y blynyddoedd diwethaf, mae hi o gwmpas ei phethau, rhaid dweud,” meddai Daniel Lambert.

“Ac mae hi’n hollol iawn, yn syml mae Brexit yn gyrru pobol allan o fusnes yn gyfan gwbl neu’n eu gyrru nhw i gael ail endidau yn yr Undeb Ewropeaidd.

“Yn y bôn, mae Brexit yn dinistrio’r wlad hon boed chi’n licio hynny ai peidio – boed y blaid Dorïaidd eisiau cyfaddef hynny ai peidio, boed y Brexitwyr gwyllt dros y Deyrnas Unedig sy’n claddu eu pennau yn y tywod eisiau cyfaddef hynny ai peidio, mae Brexit yn dinistrio’r wlad yn araf ond yn sicr. Death by a million cuts. 

“Allwch chi naill ai eistedd yma a dweud: ‘Mae’n ofnadwy’, a pheidio gwneud rhywbeth am y peth, neu gallwch chi fod yn rhagweithiol a gwneud rhywbeth am y peth. A dw i’n gwneud rhywbeth am y peth.”