Bydd swyddogion o lywodraethau Catalwnia a Sbaen yn cyfarfod ym Madrid fory (dydd Mercher, Gorffennaf 27) i ailddechrau’r trafodaethau ynghylch annibyniaeth.
Dyma’r tro cyntaf ers deg mis iddyn nhw ddod ynghyd i drafod y mater.
Yn wahanol i’r cyfarfod hwnnw yn Barcelona fis Medi y llynedd, fydd Pere Aragonès, arweinydd Catalwnia, na Pedro Sanchez, prif weinidog Sbaen, ddim yn bresennol, na chwaith aelodau o blaid Junts per Catalunya, sy’n bartner iau yng nghlymblaid Catalwnia.
Y rhai fydd yn cynrychioli Sbaen yw Félix Bolaños ar ran yr arweinydd, y gweinidog llafur a’r dirprwy brif weinidog Yolanda Díaz, y gweinidog diwylliant a chyn-arweinydd Plaid Sosialaidd Catalwnia Miquel Iceta, ac Isabel Rodriguez, y gweinidog polisi tiriogaethol.
Bydd Catalwnia’n anfon Laura Vilagrà ar ran yr arlywydd, y gweinidog busnes Roger Torrent a’r gweinidog mewnol Joan Ignasi Elena, yn ogystal â’r gweinidog diwylliant Natàlia Garriga o blaid Esquerra Republicana, sydd yn llai ymosodol tuag at Sbaen na Junts per Catalunya.