Meinir Pierce Jones yw enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ac fe dderbyniodd yr anrhydedd mewn seremoni ar lwyfan y Pafiliwn heddiw (dydd Mawrth, Awst 2).

Tasg yr 14 a ymgeisiodd oedd creu nofel heb ei chyhoeddi, gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Y wobr yw Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg a £5,000 (Prifysgol Aberystwyth).

Y beirniaid oedd Manon Steffan Ros, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd.

“Anrhydedd mawr oedd cael bod yn un o feirniaid y wobr eleni, yn enwedig â minnau’n cael cwmni Ioan Kidd ac Emyr Llewelyn ar hyd y daith,” meddai Manon Steffan Ros wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Roeddan ni’n benodol yn chwilio am nofel a fyddai’n deilwng o wobr sy’n cario enw Daniel Owen, un o’r awduron mwyaf medrus, synhwyrus a gafaelgar yn hanes Cymru.

“Roedd ein disgwyliadau felly’n uchel!

“Pedair ar ddeg ymgais a ddaeth i law eleni, ac felly roedd ’na gryn waith darllen – a chryn waith trafod – ar y gwaith.

“Mae ’sgwennu nofel gyfa’ fel hyn yn ddipyn o gamp, ac mae’n rhaid cydnabod y canoedd o oria’ sy’n siwr o fod wedi mynd i mewn i’r nofelau yma. Ma’ hynny yn ei hun yn haeddu cryn ganmoliaeth.

“Mae’n draddodiad wrth draddodi beirniadaeth i rannu’r gwaith i wahanol ddosbarthiadau, ond ma’ arna i ofn na fydda i’n gwneud hynny heddiw, gan fod y dosbarthiadau hynny wedi bod yn reit wahanol gan y tri beirniad.

“Maddeuwch i mi felly am beidio gosod y nofelau mewn unrhyw fath o drefn – mi fydd raid i chi brynu’r cyfansoddiadau ar ddiwedd yr wythnos i ddarllen ein beirniadaethau unigol ni’n tri.

“Ond ma’n saff dweud mod i o’r farn bendant fod y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni, a ’mod i wedi cael mwynhad gwirioneddol wrth ddarllen bob un.”

‘Dim amheuaeth’ mai Capten oedd y nofel orau

“…Ac ymlaen at Capten gan Polly Preston,” meddai wedyn.

“Gwirionais fy mhen yn syth â’r nofel hyfryd hon, a methais ei rhoi i lawr.

“Mae’r arddull yn gynnil ond yn hardd; Y cymeriadau yn gwbl real o’r dechrau un; y stori’n crisialu cyfnod sydd wedi mynd, heb deimlo’n sentimental nac yn hiraethus.

“Mae’n anodd meddwl am unrhyw nofel debyg i hon, ond teimlaf fod cryfder y cymeriadau a’u perthynas nhw gyda’u cymunedau yn fy atgoffa o grefft Kate Roberts.

“Does dim amheuaeth gen i mai Capten ydy nofel orau’r gystadleuaeth eleni. Mae hi’n hyfryd, hyfryd, hyfryd o nofel.

“Er i’r tri beirniad gytuno i ddechrau mai Polly Preston oedd enillydd haeddiannol Gwobr Goffa Daniel Owen eleni, ar ôl i ni’n tri gael un cip olaf, golygodd ail-ddarlleniad fod ail-feddwl, a bu trafodaethau pellach. Ni fu penderfyniad unfrydol.

“Pryder mawr Emyr Llywelyn ydi fod gormod o ddefnydd o Saesneg yn y nofel hon, a Ioan Kidd a minnau o’r farn mai dyfais oedd hyn, fod yr awdur yn defnyddio’r Saesneg fel symbol o ddieithrwch a’r chwithdod rhwng fydoedd y ddwy iaith.

“Mewn geiriau eraill, mae’r defnydd o Saesneg yn y nofel hon yn pwysleisio pwysigrwydd a harddwch y Gymraeg, ac yn nodi’n gelfydd y bygythiad sydd i’r cymunedau yn sgil y defnydd o’r Saesneg.

“Mae’n drueni, wrth gwrs, nad oedd y beirniaid yn unfryd, ac fel oeddwn i’n sôn gynna’, bydd posib i chi ddarllen sylwadau’r tri ohonom ar bob un o’r ymgeisiadau yn y Cyfansoddiadau.

“Mae Ioan Kidd a minnau’n gwbl hyderus fod Polly Preston yn gwbl haeddiannol o Wobr Goffa Daniel Owen eleni, ac y bydd y nofel yn cael ymateb gwresog gan ddarllenwyr Cymru.

“Mae’n chwip o nofel, fedrai’m disgwyl i chi gael ei darllen hi! Llongyfarchiadau fil i Polly Preston, ac i’r holl gystadleuwyr.”

Meinir Pierce Jones

Merch a’i thraed yn nhir Llŷn a bodiau’i thraed yn nŵr y glannau o’i gwmpas yw Meinir Pierce Jones.

Cafodd ei magu ar fferm ar gyrion Nefyn ac ar ôl crwydro dipyn daeth adref, ac yno y mae hi a’i chymar Geraint yn byw ers chwarter canrif a mwy.

Aeth y plant, Math, Casia, Efa a Sabel dros y nyth ond maen nhw, a’r wyrion Caio a Deri, yn dal i fwynhau dod yn ôl i Tacho am dro.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.

Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda’r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth, ac ar hyn o bryd mae’n gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.

Yn y blynyddoedd rhwng hynny, bu’n ennill ei bara menyn fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf.

Ond bu tro ar fyd rhwng 2011 a 2019 pan fu’n gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Llŷn, ac yn ystod y cyfnod prysur a phur heriol hwn y dechreuodd y syniadau ar gyfer Capten gyniwair.

Mae Meinir wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ar gyfer plant dros y blynyddoedd yn cynnwys Y Cwestiwn Mawr, Modryb Lanaf Lerpwl, Bargen Siôn ac yn fwyaf diweddar Cnwcyn a’i Ffrindiau.

Cyhoeddodd ddwy nofel flaenorol ar gyfer oedolion sef Y Gongl Felys, a gyrhaeddodd Restr Hir Llyfr y Flwyddyn yn 2005 a Lili dan yr Eira.

Ysgrifennodd Capten dros gyfnod COVID-19 pan ddaeth cyfnod o saib oddi wrth bwysau gwaith bob dydd ac ar adeg pan oedd yn dda wrth fyd arall i ddianc iddo weithiau.

Yn ei hamser sbâr, mae Meinir Pierce Jones yn mwynhau stwna yn yr ardd, mynd am dro, darllen, hwylio, bwyd, treulio amser yng nghwmni ei theulu a ffrindiau a chynllunio ei nofel nesaf!

Gellir prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ar gyrion Tregaron tan Awst 6.  Am ragor o wybodaeth ewch ar-lein, www.eisteddfod.cymru.