Mae dynes o Landysul yn galw ar yr Eisteddfod Genedlaethol i sicrhau bod pobol mewn cadeiriau olwyn a phobol ag anableddau eraill yn rhan o waith cynllunio’r Eisteddfod nesaf.

Mae Cat Dafydd o Landysul wedi anelu am Swyddfa’r Eisteddfod ar y Maes yn Nhregaron heddiw (dydd Mawrth, Awst 2) i ofyn a all yr Eisteddfod ddod â phobol ag anableddau ynghyd i ymgynghori mewn da bryd ar gyfer Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd y flwyddyn nesaf.

Mae Cat Dafydd wedi bod mewn cadair olwyn ers dros wyth mlynedd wedi damwain achosodd niwed i’w chefn.

Mae hi’n teimlo bod diffyg ystyriaeth o anableddau wedi bod eleni, a bod yr Eisteddfod wedi cymryd cam yn ôl mewn amser gyda’u cyfleusterau.

Ar ôl profiad drwg yn ymweld â’r maes ddydd Sul (Gorffennaf 31), bu bron iddi hefyd fethu ei merch yn perfformio mewn seremoni heddiw gan fod diffyg sgwteri i’w llogi ar y maes.

Ond wrth lwc, llwyddodd i logi sgwter gan fod rhywun wedi canslo ar yr unfed awr ar ddeg.

Er bod stondin Byw Bywyd ar y maes i logi sgwter, mae’n rhaid dychwelyd pob sgwter erbyn 5 o’r gloch bob nos, ac mae’n costio £20 y dydd.

Mynnu newid yn Eisteddfod 2023

Fe aeth Cat Dafydd draw i Swyddfa’r Eisteddfod i fynnu bod yr Eisteddfod nesaf yn lle braf a diogel i bobol ag anableddau.

“Dw i eisiau i Betsan Moses fenthyg y gadair olwyn yma ac o fewn 30 eiliad, bydd hi’n sylwi ‘A! Dyw hyn ddim yn gweithio!’

“Bydda i’n mynd i Swyddfa’r Eisteddfod heddiw i ddweud ‘Plîs ga’i ddod mewn i’ch swyddfa chi ym mis Medi a thrafod ar gyfer blwyddyn nesaf.

“Reit ar y dechrau pan y’ch chi’n cychwyn cynllunio, plîs ga’i siarad gyda chi?’

“Dim jest fi – ond pobol eraill gydag anableddau eraill hefyd – i ddweud beth fydd yn ein helpu ni.

“Mae hyn yn beryglus ar gyfer blwyddyn nesaf. Beth fydd yn digwydd blwyddyn nesaf os dy’n nhw dal ddim yn deall y broblem?

“Byddwn i’n rili, rili becso am ddod blwyddyn nesaf os byddai pethau ddim yn newid.

“Fi’n deall nad yw popeth yn gallu cael ei sortio blwyddyn yma ond o leiaf os y’n nhw’n derbyn eu bod nhw wedi cael rhai pethau’n anghywir, bydda i’n hapus i helpu blwyddyn nesaf.”

Yr Eisteddfod “heb ddeall y broblem”

“Mae yna doiledau i bobol ag anableddau ymhob un o’r toiledau ac maen nhw ar gyfer cadeiriau olwyn, mae ’na hefyd [gyfleusterau] arbennig ar y maes carafanau,” meddai Betsan Moses, Prif Weithredwr yr Eisteddfos Genedlaethol, wrth raglen Dros Frecwast ar Radio Cymru ddoe (dydd Llun, Awst 1).

“O ran cadeiriau olwyn, mae gynnon ni, ar hyd y maes, dracfyrddau sy’n gwbl addas ond wrth gwrs, mae’n faes eang.

“Felly mae yna gymorth.

“Wrth i chi ddod i mewn i’r brif fynedfa, mae Byw Bywyd yno, mi allwch chi gael sgwter, felly maen nhw yno i’ch cynorthwyo chi, i edrych ar eich anghenion chi, ac i nodi beth fyddai fwyaf addas ar eich cyfer chi.

“Felly ’da chi, allwch chi ffonio o flaen llaw, neu ewch atyn nhw a mi wnawn nhw eich cynghori chi beth fyddai fwyaf addas.”

Ond dydi Cat Dafydd ddim yn teimlo bod ymateb yr Eisteddfod yn ddigonol.

“Chi ddim wedi deall. Yn llwyr, chi ddim wedi deall,” meddai.

“Does dim diddordeb i weld gyda hi o ddeall y broblem,” meddai Iestyn ap Dafydd, gŵr Cat.

“Dyw’r tai bach chi wedi rhoi yna ddim yn addas o gwbl. Dydi’r trac ddim yn addas – on ac off y trac gyda cherrig anaddas.

“Dyw hi dal ddim yn deall y broblem.”

Ymateb yr Eisteddfod

Mae Cat Dafydd a’r Eisteddfod bellach wedi cadarnhau eu bod nhw’n gweithio i wella rhai o’r cyfleusterau, gan gynnwys adeiladu ramp i’r tŷ bach anabl yn y Maes Carafanau, gan nad oes yna’r un ar hyn o bryd.

Bydd hi nawr yn cyfarfod â Betsan Moses yn y misoedd nesaf i drafod y cynlluniau ar gyfer Eisteddfod 2023, gyda’r gobaith o ddod â chriw at ei gilydd i drafod.

“Rydan ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pawb yn gallu mynychu’r Eisteddfod,” meddai Gwenllian Carr, Pennaeth Cyfathrebu’r Eisteddfod, wrth golwg360.

“Rydan ni wirioneddol eisiau i bawb allu dod.

“Ond rydan ni’n falch bod pobol yn codi materion fel hyn ac yn rhoi rhywbeth i ni weithio ato.”