Mae gwir angen ymgyrch fawr PR ar gyfer cefn gwlad i adeiladu delwedd newydd gynhyrfus fel lle cyffrous a dymunol iawn i fyw a gweithio ac i fagu plant. Mae gan Gaerdydd ddyled fawr i Geredigion, ac yn arbennig i ardal Tregaron, ac mae’n hen bryd i’r brifddinas gydnabod hynny.

Dros gyfnod o 50 mlynedd fe heidiodd sawl cenhedlaeth o ieuenctid o’r ardal i Gaerdydd i chwilio am gyfleoedd gwaith cyflog teg ynghŷd â sglein a bwrlwm ac antur y bywyd trefol. Dyma neges Wynne Melville Jones i aelodau SYLW, cymdeithas o arbenigwyr cyfathrebu ar Faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tregaron yr wythnos hon.

Sefydlodd Wynne StrataMatrix y cwmni PR  dwyieithog cyntaf yng Nghymru ar ddiwedd y 70au a’i redeg yn llwyddiannus am 30 mlynedd, ac mae’n un o’r arbenigwyr mwyaf profiadol yn y maes cyfathrebu yng Nghymru…


Mae llwyddiant a datblygiad y Gymraeg yng Nghaerdydd yn rhywbeth y dylem i gyd fod yn falch ohono ond mae’n rhaid derbyn bod yna bris mawr i’w dalu. Diflannodd sawl cenhedlaeth o bobol ifanc o gefngwlad heb fawr o obaith i lawer iawn ohonynt ddychwelyd i fro eu mebyd.

Allforio pobol

Tra bod ardaloedd eraill yng Nghymru wedi allforio glo, llechu, dur a physgod, arbenigo mewn allforio pobol wnaeth Tregaron a llawer o’r rheiny wedi cyfrannu yn helaeth i gyfoethogi bywyd eu cylchoedd mabwysiedig newydd.

Poblogaeth Ceredigion yn gostwng

Cyhoeddwyd ffigyrau pryderus yn ddiweddar am ostyngiad ym mhoblogaeth Ceredigion a hynny yn arbennig ymhlith  pobol ifanc  grŵp allweddol. Mae apêl y dinasoedd i bobol ifanc yn naturiol ond mae’n bwnc llosg ac mae’n her yn fyd-eang, ond ffwlbri byddai i neb geisio eu hatal rhag profi bywyd mewn ardaloedd a gwledydd gwahanol.

Nid ymgais i feirniadu’r Cymry da yng Nghaerdydd nac i greu tyndra rhwng y wlad a’r ddinas yw hyn ond consyrn gwirioneddol am ddyfodol y bywyd gwledig Cymreig a Chymraeg. Y nod yw rhoi dewis, opsiwn a chyfle arall sydd yn ddeniadol a chyffrous.

Angen newid meddylfryd

Mae angen newid y meddylfryd ac mae’r cyfle yno nawr wrth i ddiwylliant a phatrymau gweithio gael eu trawsnewid yn sgil effaith y pandemig a sefyllfa economaidd fregus y wlad. Nawr, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos arweiniad a chymryd camau blaengar a buddsoddi yn sylweddol  i sicrhau’r newid. Erbyn hyn gallwch weithio mewn amrywiaeth o yrfaoedd  gwahanol mewn safleoedd daearyddol gwahanol.

Disgyblion ysgol

Mae siarad â disgyblion ysgol uwchradd yr ardaloedd hyn yn dangos yn eglur y byddai’r mwyafrif yn ymateb gan gymryd yn ganiataol mai symud i ffwrdd o’r ardal yw’r unig ateb ar derfyn cwrs addysg. Mae’n gwbwl hanfodol gwyrdroi yr agwedd ddinistriol hon o “weld man gwyn man draw”.

Mae trefi bach gwledig fel Tregaron, nifer dda ohonynt yn gymunedau Cymraeg eu hiaith,  yn haeddu llawer mwy o sylw, proffil a chefnogaeth na’r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd. Mae’r allfudo cyson o bobol ifanc i ganolfannau poblog i chwilio am waith yn godro cefn gwlad o’r hufen ac yn tlodi yr economi, y diwylliant a’r iaith ac yn wir holl galon ac ysbryd y cymunedau hyn.

Mae yna ddiffyg dealltwriaeth ac anwybodaeth sylweddol am gefn gwlad yn y dinasoedd ac mae angen pontio rhwng y diwylliannau gwahanol. Pan oeddwn yn fachgen ifanc yn Nhregaron yn y 60au roedd llawer iawn o’r ieuenctid lleol yn heidio i Lundain i weithio yn y busnesau llaeth ac fe wnaeth y mwyafrif lwyddo yn eithriadol.

Ers 50 mlynedd a mwy, symudodd y ffocws i Gaerdydd. Wrth i’r ddinas dyfu yn brifddinas, datblygodd nifer o sefydliadau cenedlaethol o bwys ac fe ddaeth hyn a chyfleoedd i Gymry Cymraeg i lenwi cannoedd o swyddi ar bob lefel. Cafodd llif cyson o ieuenctid eu hudo yno er mwyn manteisio ar ennill cyflog teg ac ymestyn eu potensial a’u sgiliau yn ogystal a’u swyno gan gyffro bywyd y ddinas.

Erbyn hyn yng Nghaerdydd, mae’r ddinas wedi elwa yn fawr o fod wedi denu’r Cardis a phobol cefn gwlad a chrëwyd cenhedlaeth o Gymry Cymraeg dinesig gan ddod â llewyrch a llwyddiant i’r iaith mewn cylchoedd newydd arloesol. Gwych o ddatblygiad ond beth yw’r gost?

Mwy nag amaethu a lletygarwch yn unig

Yn y pen draw mater o greu gwaith a chyfleoedd i’n pobol ifanc yng nghefn gwlad yw’r ateb ond cyn hynny ac fel cam cyntaf mae angen dybryd am ymgyrch anferth a  phroffesiynol a soffistigedig mewn cysylltiadau cyhoeddus i greu delwedd newydd fodern a deniadol o gefngwlad fel lle addas i fyw ac i weithio ynddo. Mae angen cyflwyno naratif newydd ac osgoi cyfyngu’r syniad o’r bywyd gwledig i amaethu a lletygarwch yn unig, er mor bwysig yw’r rheiny.

Er gwaetha’r trai, mae yma yn Nhregaron do newydd o deuluoedd ifanc bywiog a brwdfrydig ac mae bywyd cymdeithasol y lle yn fyrlymus. Sefydlwyd Gŵyl Roc lwyddiannus, bu ad-drefnu yr ysgol yn llwyddiant ysgubol ac mae nifer o gymdeithasau a mudiadau a mentrau busnes arloesol a lleol yma wedi eu datblygu. Dyma’r sail i adeiladu arni. Nawr mae angen mwy i fod yn rhan o gymuned fyw sy’n lle ddelfrydol i fyw a gweithio a magu plant.

Mae’n rhaid pwyso ar y llywodraeth i gydweithio gyda grwpiau fel arbenigol Sylw, Menter a Busnes ac asiantaethau arloesi eraill, mudiadau llwyddiannus fel CFfI a’r Urdd, ysgolion ac awdurdodau lleol, y cyfryngau, cymdeithasau lleol ac yn arbennig y bobol leol i adeiladu delwedd gynhyrfus newydd.

Gall Tregaron, fel un o’r ardaloedd sy’n cael ei daro waethaf gan effeithiau’r newidiadau hyn fod yn ganolog yn yr ymgyrch ac yn fodel ar gyfer ardaloedd eraill hefyd er mwyn creu a dangos beth yw potensial y broydd hyn i ddiwylliant, cymdeithas ac economi a chynnig dyfodol positif i’n pobol ifanc ac i’r gymuned gyfan. Os na ddigwydd hyn nawr mae perygl real iawn y bydd yn lle yn llenwi o bobol o’r tu allan na fyddant â’r awydd na’r gallu i uniaethu nac ymdoddi i  ffordd o fyw a diwylliant a bywyd masnachol “y dre fach a’r sŵn mawr”.

Mae’r Eisteddfod wedi dangos i Gymru bod Tregaron a’r ardal yn bodoli, yn fyw ac mae’n gymuned lle mae’r Gymraeg yn iaith bob dydd. Mae’r trigolion wedi ymateb i’r Eisteddfod gyda brwdfrydedd mawr. Gadewch i ni nawr adeiladu ar hyn.