Er meddwl y byddai pethau’n haws oherwydd bod cyfnod hwy gan feirniaid llenyddol eleni i gyflwyno’u gwaith, y gwrthwyneb oedd yn wir, yn ôl golygydd Cyfansoddiadau Eisteddfod Ceredigion 2022.

Dyma gyfrol sy’n cynnwys beirniadaethau a chyfansoddiadau llenyddol sydd wedi ennill yn yr Eisteddfod, ynghyd â beirniadaethau’r cystadlaethau ‘cartref’ eraill.

Fel arfer, mi fydd Gwyn Lewis yn treulio tua deufis yn golygu’r beirniadaethau, ond eleni bu’n gweithio ar y Cyfansoddiadau am chwe mis.

Oherwydd yr oedi o ddwy flynedd, daeth cynnyrch cyfansoddiadau gwreiddiol Eisteddfod Ceredigion eisoes i law trefnwyr yr Eisteddfod ynghynt, ar ôl iddyn nhw gloi’r cystadlaethau gwreiddiol yn ôl ym mis Ebrill 2020.

“Fe benderfynodd yr Eisteddfod, yn eu doethineb y bydden nhw’n eu rhyddhau nhw’n gynt i’r beirniaid eleni,” meddai Gwyn Lewis wrth golwg.

“Mi benderfynwyd eu rhyddhau nhw ym mis Ionawr ac y baswn i’n eu cael nhw ddechrau Ebrill. Felly roeddwn i yn meddwl y byddwn i yn gorffen yn gynt. Ond, o roi rhyddid fel yna i ambell feirniad, mi aeth hi’n eitha’ ben set ar ambell un yn anfon i mewn.

“O ganlyniad, dw i wedi bod wrthi am bron i chwe mis yn hytrach na’r ddeufis arferol. Mae wedi bod yn chwe mis o olygu! Roedd o fod yn fendith eleni, ond mi drodd yn fendith ac yn felltith.”

Mae wedi cynnwys nodyn am y peth yn ei ragair i’r gyfrol, yn nodi’r broblem.

“Mi ges i’r feirniadaeth gyntaf canol mis Ionawr, ac o’n i’n meddwl, ‘o, mi fydda i wedi gorffen yn gynnar eleni’,” meddai.

“Ond na, roedd yna ambell un yn llusgo. Dw i ddim ond wedi nodi ei fod wedi bod yn fendith ac yn felltith, a bod ambell i falwoden wedi bod yn hwy na’i gilydd yn croesi’r llinell.”

Mae dyn yn cofio fel y byddai ei ragflaenydd yn y swydd, yr ieithydd J Elwyn Hughes, yn rhoi nodyn o gerydd go gryf yn ei ragair i’r beirniaid hynny a fyddai yn hwyr yn cyflwyno’u beirniadaethau.

Y gohirio wedi creu mwy o waith

Mae gwaith golygu’r Cyfansoddiadau yn “eithaf trwm” yn ôl y golygydd – yn enwedig eleni.

“Mae rhywun yn gorfod gwneud mwy nag ond darllen proflenni neu olygu,” meddai.

“Mae rhywun yn gorfod gofalu bod y wybodaeth yn gywir o ran bod y ffugenwau yn cyfateb i’r feirniadaeth, a’r hyn sydd wedi dod i mewn. Rhaid gofalu bod y testunau a’r teitlau, gan fod yna ddwy flynedd wedi mynd, yn gywir hefyd.

“Mae yna ohirio wedi bod. Ers bod y rhestr destunau wreiddiol wedi ei chyhoeddi, mae yna newidiadau wedi bod o ran pwy sy’n beirniadu, mae yna farwolaethau wedi bod… Mae newidiadau felly yn gorfod digwydd, ac roedd yn rhaid i mi wirio pethau felly yn fwy nag arfer eleni.”

Fe fydd Cyfansoddiadau Eisteddfod Ceredigion 2022 yn mynd ar werth ar Faes yr Eisteddfod – ac mewn siopau llyfrau hyd y wlad – yn syth ar ôl y seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.