Roedd Siôn Aled Owen yn un o dri a oedd yn deilwng o Goron Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion eleni.

Enillodd y Goron yn 1981, ond mae’n teimlo ei fod wedi ennill mwy eleni er na ddaeth i’r brig.

Esyllt Maelor o Forfa Nefyn gipiodd Goron Eisteddfod Tregaron ddechrau’r wythnos gyda chasgliad o gerddi ar y pwnc ‘Gwres’.

Roedd Siôn Aled Owen yn trafod seremoni’r Coroni gyda Hywel Gwynfryn ar Radio Cymru pan glywodd y feirniadaeth hael i gerddi’n trafod y pandemig.

“Roedd yn deimlad gwych, i ddweud y gwir,” meddai Siôn Aled Owen, sydd wedi dod yn agos at ennill y Goron fwy nag unwaith ers 1981, wrth golwg360.

“Pan wnes i ennill y Goron yn 1981, ymhell bell yn ôl, dw i’n meddwl mai dau allan o’r tri beirniad oedd o fy mhlaid i.

“Roedd y feirniadaeth yn ocê a Gwyn Thomas oedd yn traddodi ac roedd o’n gadarnhaol iawn.

“Ond roedd y feirniadaeth gefais i er na wnes i ennill eleni yn lawer iawn mwy cadarnhaol na’r un gefais i’n 1981.

“Mewn ffordd dw i’n teimlo fy mod i wedi ennill mwy er fy mod i wedi colli!”

Sgrifennu ‘funud olaf’

Cerdd Siôn Aled Owen oedd yr unig un oedd yn trafod y pandemig ymysg y 24 a ddaeth i law’r beirniaid, Cyril Jones, Glenys Mair Roberts a Gerwyn Williams.

Cafodd y cerddi eu cyflwyno i’r Eisteddfod ym mis Ebrill 2020, ychydig wedi dyfodiad y cyfnod clo cyntaf.

“Dw i’n tueddu i wneud pethau funud olaf, wedyn roedd y cyfnod clo wedi dechrau’n barod ac roeddwn i wedi bod yn meddwl am gerddi ar y testun gwres,” meddai Siôn Aled Owen.

“Unwaith oedd Covid wedi cyrraedd ein glannau ni roeddwn i beth bynnag yn obsessed efo gwres y corff achos dyna un o’r symptomau cyntaf.

“37.8 ydy enw’r gerdd gyntaf, sef gwres naturiol y corff, a bod rhywun yn fwy ymwybodol o hwnnw nag erioed o’r blaen. Yn nyddiau cynnar y pandemig, doedden ni ddim yn gwybod pa mor farwol fydda fo, ac mi roedd o’n farwol wrth gwrs i filoedd lawer o bobol ond i ran fwyaf yn salwch gweddol ysgafn – ond ar y pryd doedden ni ddim yn gwybod.

“Mae’r gweddill ynglŷn â phrofiadau’r dyddiau cynnar hynny, er enghraifft bod yn yr archfarchnad efo’r troliau a phawb yn trio osgoi ei gilydd fel tasa chi’n gwneud ryw ddawns fach ryfedd.

“Dw i’n meddwl mai hon oedd yr unig gerdd oedd yn ymdrin â’r pandemig oherwydd roedd pawb arall wedi sgrifennu mewn da bryd.

“Dw i’n bwriadu trio bob blwyddyn ond fel arfer mae gwaith ac ati yn gwthio’r amser o fy ngafael, ond yn eironig eto oherwydd y pandemig mi orffennodd y gwaith cyfieithu a chyfieithu ar y pryd oeddwn i’n ei wneud.

“Daeth popeth i ben yn sydyn, ac yn sydyn roedd gen i amser i sgrifennu cerddi.”

‘Casgliad trawiadol’

Roedd tri beirniad y gystadleuaeth yn cytuno bod cerdd Kairos, ffugenw Siôn Aled Owen, yn cyrraedd y brig, a dywedodd Cyril Jones fod y tri ddaeth i’r brig yn “sicrhau bod cystadleuaeth y Goron yn Nhregaron eleni yn cyrraedd safon uwch na’r arfer” yn ei farn ef.

“Bardd a lwyddodd i greu casgliad trawiadol am gychwyn cyfnod y clo mawr pan nad oedd neb yn gwybod be fyddai hyd a lled y cyfnod hwnnw,” meddai Cyril Jones am waith Kairos wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Dywed Glenys ‘Mae’r cyfan yn rhwydd eithriadol i’w ddarllen ac yn ogleisiol hefyd, ac mae hiwmor yn ysgafnhau difrifoldeb y cyfan’.

“Mae Gerwyn hefyd yn llawn edmygedd o’i ddawn, meddai ef ‘Clyfar a ffraeth ond sylweddol, ac yn defnyddio cywair llafar sgwrsiol ac agosaoch’.

“Dw innau yn cyfeirio at y gerdd Trio’r Clociau, ac yn nodi dawn y bardd wrth iddo ddangos mor seuthug fu’n weithred honno o droi’r clociau adeg cyfnod y clo.

“Mynegodd y tri ohonom y buasem wrth ein bodd yn coroni Kairos am ei gamp.”