Mae cais Caerdydd i gynnal cystadleuaeth ganu Eurovision wedi bod yn aflwyddiannus.

Mae’r Cyngor wedi cyhoeddi na fyddan nhw, ynghyd â Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality, yn bwrw ymlaen â’r cais i gynnal Eurovision 2023.

Y prif reswm dros beidio â bwrw ymlaen â’r cais yw’r perygl o orfod canslo nifer o ddigwyddiadau mawr sydd ar y gweill yn Stadiwm Principality y gwanwyn nesaf.

“Mae’r BBC, fel trefnwyr y digwyddiad, wedi cyhoeddi manylebau ar gyfer pob dinas sy’n dymuno cynnal y digwyddiad,” meddai Cyngor Caerdydd mewn datganiad.

“Fel partneriaid, rydym wedi bod yn gweithio drwy’r rhain yn fanwl.

“Mae’n amlwg y byddai gan Gaerdydd ddadl gref iawn ym mhob un o’r rhain i fod y ddinas sy’n cynnal Eurovision 2023.

“Fodd bynnag, mae cymhlethdod cynnal y digwyddiad yn golygu y byddai’n rhaid canslo nifer o ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn Stadiwm Principality yn ystod y gwanwyn 2023 o ganlyniad.

“Mae’r rhain yn cynnwys Pencampwriaethau Rygbi Cadair Olwyn Ewrop, ‘The Road to Principality, digwyddiad allweddol yng nghalendr rygbi gymunedol Cymru ac mae gan artist rhynglwadol mawr gytundeb i ymddangos, ymhlith digwyddiadau eraill.”

Wcráin

Wcráin oedd enillwyr Eurovision yn Torino eleni.

Fodd bynnag, o ganlyniad i’r rhyfel parhaus yn y wlad yn dilyn ymosodiad gan Rwsia, daeth penderfyniad na fyddai Wcráin yn cynnal y gystadleuaeth.

Ar ôl i’r BBC gadarnhau yr wythnos ddiwethaf eu bod nhw wedi derbyn gwahoddiad gan Undeb Ddarlledu Ewrop i gynnal y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf, dywedodd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, fod yr awdurdod lleol yn ystyried y posibilrwydd o gynnal y digwyddiad.

Ers hynny, mae’r Cyngor wedi bod yn cydweithio â Llywodraeth Cymru a Stadiwm Principality i edrych ar ddichonolrwydd y cais.

“Rydym wedi bod mewn trafodaethau brys gyda’r BBC i archwilio unrhyw opsiynau posib fel y gellid fod wedi cynnal y digwyddiad o fewn yr amserlen bresennol,” meddai’r datganiad.

“Yn anffodus, dydyn ni ddim wedi gallu dod o hyd i ddatrysiad fyddai’n gweithio, ac felly rydym wedi cytuno na fydd yn bosib i gais Caerdydd fynd yn ei flaen.

“Rydym yn diolch i’r BBC am ymgysylltu’n bositif â ni, ac yn dymuno’n dda i’r ddinas fuddugol wrth gynnal y gystadleuaeth yn 2023.”

Beirniadu diffyg uchelgais

Wrth ymateb i’r newyddion, mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu diffyg uchelgais Llywodraeth Lafur Cymru a Chyngor Caerdydd, sydd hefyd o dan reolaeth y Blaid Lafur.

“Mae dod â Eurovision i Gymru’n gyfle unwaith mewn bywyd i roi ein cenedl ar y map, ac mae gweld Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn methu â’i denu’n siomedig iawn,” meddai Tom Giffard, llefarydd diwylliant y blaid.

“Tra fy mod i’n deall bod heriau penodol wrth ddod â’r digwyddiad cyfan i Gaerdydd, dydy hi ddim yn ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru wedi edrych ar unrhyw opsiynu y tu allan i’r brifddinas.

“Gellid fod wedi cynnal y rowndiau cyn-derfynol yn Arena newydd Abertawe, er enghraifft.

“Ond dydy hi ddim yn ymddangos bod hynny wedi cael ei archwilio.

“Croeso llugoer gafodd y syniad o ddod â Eurovision i Gymru gan Lafur erioed, fel gwnaethon nhw ei ddangos yn ein dadl yn y Senedd ar y pwnc ym mis Mehefin.

“O ystyried y ffordd mae Llafur yn ymosod ar ein diwydiant twristiaeth ar hyn o bryd, dw i ddim wedi fy synnu o weld eu diffyg uchelgais parhaus wrth ddod ag un o uchafbwyntiau’r calendr diwylliannol byd-eang i Gymru.”

‘Colli cyfle enfawr’

Yn y cyfamser, mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn dweud bod Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru “wedi colli cyfle enfawr”.

“Byddai cynnal Eurovision wedi ein galluogi ni i arddangos Caerdydd a Chymru gerbron y byd,” meddai Rhys Taylor, arweinydd y blaid yn y brifddinas.

“Mae’r Alban a Lloegr ill dwy wedi cynnal Eurovision yn y gorffennol, mae hi’n hen bryd i Gymru gael rhoi cynnig arni.

“Mae cefnu ar gais y ddinas mor gynnar yn dangos diffyg uchelgais llwyr i Gaerdydd a Chymru gan Lafur.”