Edward Rhys-Harry yw enillydd Tlws y Cerddor eleni, ac fe gafodd ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn heddiw.

Y dasg eleni oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o’r opera gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy’n bodoli eisoes.

Y wobr yw Tlws y Cerddor (Cymdeithas Cerddoriaeth Cymru) a £750 (Gofalaeth Asedau Sterling Asset Management) ac Ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo gyrfa’r cyfansoddwr buddugol.

Y beirniaid oedd Gwion Thomas, John  Metcalf a Patrick Young, ac wrth draddodi ar ran ei gyd-feirniaid, dywedodd Gwion Thomas fod yr Eisteddfod wedi gosod “her hynod anodd i gyfansoddwyr (ac i feirniaid) ar gyfer Tlws y Cerddor eleni”.

Y briff oedd ysgrifennu cân corws a dwy unawd allan o opera fer.

Caiff natur yr her honno ei hadlewyrchu yn y panel o feirniaid, sydd yn cynnwys cyfansoddwr, cyfarwyddwr llwyfan a chanwr.

Yn wir, mae ein cyfarwyddwr llwyfan, Patrick Young, eisiau pwysleisio ei fod yn agored i ystyried gwaith gan unrhyw dalent Cymreig ar gyfer partneriaeth posibl yn y dyfodol…

“Mae pwnc Picard, Yr Islawr yn ein denu ni i rywle newydd.  Mae’r cantorion i gyd mewn lifft sydd wedi torri i lawr,  Cawn gorws egnïol, dramatig gyda’r geiriau’n dod drosodd yn glir, gyda help ail-adrodd…” meddai.

“Rydym yn clywed dylanwad theatr gerdd Americanaidd, cyfansoddwyr fel Menotti. A dylanwad Agatha Christie… mae yna addewid fan hyn, er bod yna ddiniweidrwydd a symlrwydd i’r cyfansoddi, ac rydyn ni fel beirniaid wedi cydfynd â phenderfyniad ein mwyafrif a rhoi gwobr Tlws y Cerddor eleni i Picard.”

Edward Rhys-Harry

Mae Edward Rhys-Harry yn byw yn Llundain ac yn gweithio ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol fel hyfforddwr llais, beirniad, cyfansoddwr, trefnydd ac arweinydd.

Caiff ei gerddoriaeth ei chyhoeddi gan Universal Edition (Vienna), Boosey & Hawkes (UK), Chester Novello (UK), Banks Music Publications (UK), Chichester Music Press (UK) a Curiad Cyf., (Cymru) a chaiff ei pherfformio yn rheolaidd o gwmpas y byd.

Mae’n cyfansoddi’n rheolaidd ar gyfer y byd teledu, gyda’i gerddoriaeth i’w chlywed ar S4C, Sky Sports ynghyd â hysbysebion ar ITV.

Mae wedi cyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer BBC 1,2,3,4 a’r holl sianeli radio, yn ogystal ag ymddangos ar raglenni fel ‘The Apprentice – You’ve Been Fired’ ar BBC 1, ‘Dr Who’, Sioe Nadolig Rob Brydon (yn arwain Syr Bryn Terfel), ‘This Morning’ ar ITV, Euro Express (rhan o Football Euros 2016) a ‘Sports Relief’ ‘, ynghyd â’r digrifwr Jack Whitehall.

Mae’i drefniannau lleisiol yn ymddangos ar y trac sain ar gyfer cynhyrchiad FOXTV/BBC o ‘A Christmas Carol’ (2019) gyda Guy Pearce.

Yn 2021, daeth yn gyfansoddwr cyswllt yn Theatr Genedlaethol Llundain ar y Southbank, a’i gyfansoddiad cyntaf oedd y gerddoriaeth ar gyfer y cynhyrchiad o ‘Under Milk Wood’ a gyfarwyddwyd gan Lyndsey Turner, lle bu’n gweithio’n agos gyda Michael Sheen a’r Fonesig Sian Phillips.

Mae ei goncerto sacsoffôn ‘The Ballad of Lady Barham’ i’w rhyddhau ar y Label Cerddoriaeth 360, ac yn cael ei pherfformio gan Max Goldberg ar ei ddisg ‘Reflections’.

Edward yw Cyfarwyddwr Artistig Côr Siambr Cymru/Chamber Choir Wales, côr siambr broffesiynol ad hoc, yn ogystal â ‘The Harry Ensemble’.

Mae wedi arwain mewn gwyliau cerdd ym Melbourne Awstralia, Trevelin ym Mhatagonia a Pennsylvania, Boston, Philadelphia ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau.

Ar hyn o bryd mae Edward yn Gyfarwyddwr Cerddorol rheolaidd Corale Cymry Llundain a Chorws Harlow yn ogystal â chyfarwyddwr cerdd a phrif arweinydd Côr Meibion Cymry Llundain. Mae hefyd yn Arweinydd Anrhydeddus Sandgrenska Manskören – côr meibion yn Karlskrona, Sweden, y mae’n gweithio gydag e bob mis Awst.

Yn 2020, cafodd ei gydnabod am ei ymrwymiad i gerddoriaeth Cymru drwy dderbyn Gwobr Glanville Jones am gyfraniad eithriadol i gerddoriaeth yng Nghymru, gan Urdd Cerddoriaeth Cymru.

Bydd modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ymlaen tan Awst 6.