Mae’r gynrychiolaeth LHDTC+ yn y sîn roc Gymraeg yn “ofnadwy” er bod pethau’n dechrau newid, yn ôl un artist.
Roedd Izzy Morgana Rabey yn rhan o sgwrs banel ar y testun ‘Y sîn roc Gymraeg: Cynhwysol?’ a gafodd ei threfnu gan Mas ar y Maes ar Faes yr Eisteddfod heddiw (dydd Mercher, Awst 3).
Mae hithau, Gruff Jones sy’n aelod o Sŵnami, a Cat Morris, sy’n aelod o griw Kathod ac yn gweithio ym myd y celfyddydau, yn gytûn bod llawer o waith i’w wneud er mwyn sicrhau cynrychiolaeth yn y sîn.
Iestyn Wyn, sy’n gweithio i Stonewall Cymru, oedd yn cadeirio’r sgwrs banel ar ran Mas ar y Maes, gŵyl sy’n dathlu’r gymuned lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol fel rhan o’r Eisteddfod.
“Dw i’n credu bod newidiadau wedi dechrau digwydd, ond dw i’n credu bod ni dal ar y dechreuad o ran stwff yn newid,” meddai Izzy Morgana Rabey wrth golwg360.
“Dw i’n cyfarwyddo’r darn cwiar benywaidd cyntaf sydd erioed wedi cael ei gomisiynu gan yr Eisteddfod, dw i’n meddwl ei fod e’n wallgof yn 2022 mai dyma’r tro cyntaf i hyn ddigwydd.
“Er bod stwff yn newid, gafon ni’r sesiwn Kathod neithiwr ac roedd cael rhannu llwyfan efo pobol cwiar mor exciting a sbesial.”
‘Newidiadau yn digwydd’
Cafodd sesiwn Kathod ei chynnal yn y Babell Lên neithiwr, sef noson o farddoniaeth lafar, bîts a cherddoriaeth, ac roedd sawl un o’r naw cyfrannwr yn perthyn i’r gymuned LHDTC+.
“Dw i’n gweld bod y newidiadau yn digwydd, ond mae yna wastad fwy o waith i’w wneud,” meddai Izzy Morgana Rabey.
“O ran cynrychiolaeth, pan oeddwn i’n tyfu lan doedd yna neb cwiar Cymraeg oeddwn i’n gallu uniaethu â nhw o gwbl. Fi oedd yr unig un oedd ma’s yn ysgol fi, ac roedd yr homoffobia roeddwn i’n ei wynebu a theimlo fy mod i ddim digon Cymraeg neu ddim y math iawn o Gymraeg yn rywbeth roeddwn i’n brwydro drwyddo fe yn fy arddegau.
“Yn amlwg, mae’n neis cwrdd â menywod cwiar eraill ar y sîn a dw i mewn bandiau gyda genod cwiar eraill hefyd. Rydych chi’n gorfod adeiladu teulu’ch hunan, achos dw i’n credu bod y gynrychiolaeth yn ofnadwy.
“Os ydyn ni’n siarad am y theatr hefyd, o ran cyfarwyddwyr cwiar Cymraeg sy’n fenywod byset ti’n gallu cyfri nhw ar un llaw. Mae dal gymaint o waith i’w wneud gyda hynny.
“Ond dw i’n ymwybodol fy mod i’n berson gyda lliw croen eithaf golau, mae hynny hefyd yn privilege. Ond os ydyn ni’n siarad wedyn am gymunedau sydd o gefndiroedd byd-eang neu gymunedau du Cymraeg cwiar mae yna fwy fyth o waith i wneud.”
“Mae e weithiau’n gallu teimlo fel ychydig bach o bybl, ‘y sîn roc Gymraeg’, ac mae’r gwir gydraddoldeb yn digwydd weithiau tu fa’s i’r bybl yna a phan mae pobol yn mynd ma’s o’r bybl ac yn siarad gyda chyfryngau tu fas i Gymru a thu fas i’r iaith Gymraeg,” ychwanega Cat Morris.
“Pan rydyn ni’n sôn am fandiau Cymraeg, ein bod ni’n sôn am fandiau cwiar ac artistiaid cwiar a dim jyst yr enwau cyffredin mae pawb yn gyfarwydd â nhw sy’n rhan o’r sîn roc [Gymraeg].”
Gwneud hi’n haws i eraill
Fel rhywun anneuaidd, roedd hi’n anodd i Gruff Jones ddod ma’s gan nad “oedd wedi gweld rhywun Cymraeg fel yna o’r blaen”.
“Mae o i gyd yn ddynion gwyn cis [yn y sîn roc Gymraeg], i fod yn straight to the point ambyti fe. Mae e ychydig yn cliché i ddweud ond it is what it is,” meddai Gruff Jones wrth golwg360.
“Mae’n anodd achos i rywun non-binary oedd e’n anodd i fi ddod ma’s achos doeddwn i ddim yn gweld rhywun Cymraeg fel yna o’r blaen.
“Dw i’n gobeithio bod y ffaith fy mod i’n gwneud hyn ac yn siarad ambyti fe yn helpu mwy o bobol sydd efallai’n teimlo ddim yn cis, er enghraifft, i allu bod yn nhw eu hunain.”
‘Dod â’r Gymraeg at gynulleidfaoedd newydd’
Wrth sôn am gynhwysiant o fewn y diwylliant Cymraeg a’r sîn roc Gymraeg, mae’n bwysig sôn am ddod â’r Gymraeg at gynulleidfaoedd newydd hefyd, meddai Iestyn Wyn.
“Mae’n gweithio’r ddwy ffordd. Os ydyn ni o ddifrif am gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg mae’n rhaid i ni agor y drysau, mae’n rhaid i ni apelio at fwy o bobol yn hytrach na’r ganran o bobol fysa chdi ella’n disgwyl i wrando a gwylio’r math yma o gerddoriaeth neu gelfyddydau.
“Dw i’n meddwl bod o’n bwysig o ran y ddwy ffordd.”
Edrych tuag at sefydliadau
Er mwyn creu newid parhaol a chynaliadwy, mae’n rhaid edrych tuag at sefydliadau celfyddydol a’r rhai sydd mewn grym, meddai Izzy Morgana Rabey yn ystod y sgwrs.
“Gyda’r institutions yma, pwy sydd actually ar fyrddau’r sefydliadau hyn, pwy sy’n rhedeg nhw, a ble mae’r gynrychiolaeth yno?
“Ti’n gallu cael lein-yps gydag artistiaid cwiar, lein-yps gyda menywod ond eto, os nad yw’r sefydliad ei hun yn adlewyrchu’r gymuned yna rydych chi eisiau ei denu mewn fi’n credu bod hi’n anodd cael newid parhaol a newid sy’n mynd i gael cynaliadwyedd hirdymor.”