Mae’r BBC wedi cyhoeddi eu bod nhw’n bwriadu ehangu oriau darlledu Radio Cymru 2 yn yr hydref.
Wrth siarad yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, dywedodd Rhuanedd Richards, Cyfarwyddwr BBC Cymru, mai’r uchelgais oedd i ehangu oriau darlledu Radio Cymru 2 o 15 awr i dros 60 awr yr wythnos.
Lansiodd BBC Radio Cymru 2 yn 2018 a hyd yma, maen nhw wedi darlledu yn ystod y bore gan fwyaf, gyda’r sioe frecwast rhwng 7 a 9 bob dydd.
Ond gyda’r oriau darlledu yn cael eu hymestyn, dywed Dafydd Meredydd, Pennaeth Gwasanaethau Cymraeg y BBC, y bydd cerddoriaeth “wrth galon” y sianel.
Mae’r cynlluniau hefyd yn golygu y bydd brand cerddoriaeth ac adloniant ar gyfer siaradwyr Cymraeg am y tro cyntaf erioed.
Mae golwg360 wedi gofyn i’r BBC beth yw ffigyrau gwrando Radio Cymru 2, ond maen nhw’n dweud nad oes ffigyrau gwrando ar wahân ar gyfer Radio Cymru 2 gan eu bod yn cael eu cyfrif ynghyd â Radio Cymru
‘Strategaeth uchelgeisiol’
“Mae mynd â Radio Cymru 2 o 15 awr yr wythnos i dros 60 awr yr wythnos yn rhan o strategaeth uchelgeisiol BBC Cymru i sicrhau ein bod yn gallu rhoi dewis i siaradwyr Cymraeg,” meddai Rhuanedd Richards.
“Mae Radio Cymru yn boblogaidd tu hwnt – gyda ffigyrau gwrando ar eu uchaf ers deuddeg mlynedd – ac rydym eisiau adeiladu ar y llwyddiant hwnnw gan sicrhau ein bod yn ymateb i anghenion siaradwyr Cymraeg sy’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth yn ystod y dydd.”
Ychwanegodd Dafydd Meredydd fod “gwrandawyr yn dweud wrthym eu bod yn edrych am ddewis pan mae hi’n dod i wrando ar y radio”.
“A dyna’r bwriad gyda Radio Cymru 2 wrth i ni hoelio’r ffocws,” meddai.
“Mae arlwy o gerddoriaeth yn rhywbeth sydd ar goll ar hyn o bryd i siaradwyr Cymraeg – dwi’n gyffrous iawn am gael dod â’r arlwy hwnnw i wrandawyr yn yr Hydref.”