Sioned Erin Hughes o Foduan yw enillydd y Fedal Ryddiaith eleni, mewn cystadleuaeth a ddenodd 17 o ymgeiswyr.

Testun y gystadleuaeth eleni oedd cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun ‘Dianc’.

Y beirniaid oedd Meg Elis, Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury.

Cafodd y Fedal a’r wobr ariannol o £750 eu cyflwyno gan Gymdeithas Cyfeillion Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Daeth dau ar bymtheg o ymgeiswyr i’r gystadleuaeth eleni – nifer teilwng iawn,” meddai Meg Elis wrth draddodi’r feirniadaeth.

“Ond mesur, nid pwyso, ydi swyddogaeth beirniaid, felly ein dyletswydd ni’n tri oedd canolbwyntio ar yr ansawdd yn hytrach na’r nifer.

“Fuaswn i ddim ymhell o’m lle, debyg, yn dweud mai’r cyfnod clo a’r amser ychwanegol a roddodd hynny i roi mwy o amser i sgwennu, a esgorodd ar y nifer a anfonodd waith i mewn eleni. Dim byd o’i le ar hynny. Mi wnes i fy hun lawer mwy o arddio yn ystod y cyfnod hwnnw.

“Ond fuaswn i ddim yn breuddwydio cynnig dim o ‘nghynnyrch i Sioe Chelsea nes fy mod i wedi magu a meithrin cymaint mwy o arbenigedd nag rwy’n feddu ar hyn o bryd.

“A pheidiwch â difrïo’r gymhariaeth: Chelsea ydi pinacl i arddwyr o’r radd flaenaf, a’r gystadleuaeth hon, y brwydrodd cymaint o ryddieithwyr o’n blaenau ni i roi iddi ei statws teilwng, ydi’r lle y dylasem ni fel Cymry weld goreuon ein sgwennwyr yn blodeuo ac yn arddangos eu lliwiau yn eu holl ogoniant.”

‘Unfryd’

“Fe welwch ein bod ni’n tri wedi amrywio o ran lle’r ydym yn gosod y rhai sydd yn yr ail neu’r trydydd dosbarth, ac y mae hynny’n beth iach. Ond pawn ddown at y tri ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y brig, rydym yn unfryd – er nad yn gyfan gwbl felly, fel y cewch weld…” meddai wedyn.

“Mae Mali, Mesen a Gwraig yn haeddu ystyriaeth o ddifrif, ac y mae i’r tri eu gwahanol rinweddau. Cyflwynodd Mali gyfres o storïau dan y teitl ‘Ninefe’: a storïau gorffenedig ydyn nhw, nid darnau bach pytiog. Wrth i chi ddarllen ymlaen, fe welwch fod yna gysylltiad pendant rhwng y storïau, a rhwng y cymeriadau sy’n cael eu darlunio hefyd…

“Mae yma gymeriadau rhyfeddol gan Gwraig yn ei nofel hi, ‘Sut i Ddofi Corryn’. O bosib mai’r wraig ei hun ydi’r cymeriad sy’n ein cyffwrdd fwyaf, a’i hymdrech i ganfod gwellhad i ganser ei gŵr yn ein symud un funud i fyd ffantasi, at ymwneud agos gŵr a gwraig â’i gilydd. Mae Gwraig hefyd wedi llwyddo, bron, i osgoi’r fagl y disgynnodd eraill iddi, sef methu â chadw rheolaeth dros ddeunydd uchelgeisiol. ‘Bron’ ddywedais i, ond nid yn gyfan gwbl…

“Cywair tawel sydd i Mesen, a’i storïau dan y teitl ‘Rhyngom’ ar y cyfan, ond mae yma rywun sy’n gwybod i’r dim sut i gyfleu cymeriad mewn ymadrodd, pryd i fod yn gynnil a phryd i ddefnyddio ambell i gymal sy’n gwneud i’r darllenydd aros yn stond a rhyfeddu. Cryfder Mesen yw’r gallu i daflu goleuni ar y berthynas rhwng pobl a’i gilydd, ac y mae wedi llwyr ddysgu’r wers y talai i lawer o’r ymgeiswyr eraill ei rhoi ar gof a chadw – “dangos, nid dweud.”

“Casgliad Mesen yn bendant a blesiodd Eurig, tra bod Dylan yn cael ei dynnu at Mali. Roedd yng ngwaith Gwraig gymaint o nodweddion oedd yn peri pleser llenyddol i minnau. Ac un o bleserau cyd-feirniadu ydi’r cyfle i drafod, i ail-ddarllen ac ail-ymweld, a myfyrio dros y cynnyrch a gawsom. Dyna a wnaethom ni’n tri, ac mae’n dda gen i ddweud ein bod ni’n tri wedi dod i gytundeb mai, o blith y tair cyfrol a ddaeth i’r brig eleni, mai ‘Rhyngom’, gan Mesen, sy’n teilyngu’r Fedal yn Nhregaron eleni.”

Yr enillydd

Mae Sioned Erin Hughes yn 24 mlwydd oed ac yn byw ym Moduan, ger Pwllheli.

Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad yr Athro Gerwyn Wiliams.

Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed yn 2018, a daeth yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych eleni.

Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a oedd ymhlith y buddugwyr yng Ngwobrau Tir na n-Og yn 2020.

Ysgrifennodd ei llyfr cyntaf i blant, Y Goeden Hud, yn ôl yn 2021, ar ddechrau’r Clo Mawr cyntaf.

Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ar lond llaw o brosiectau cyffrous.

Ei gobeithion at y flwyddyn sydd i ddod yw troi ei llaw at fyd y ddrama a barddoniaeth, gan ei bod hi’n boenus o ymwybodol mai dim ond blwyddyn sydd ganddi’n weddill cyn iddi fod yn rhy hen i gystadlu gyda’r Urdd!

Wedi dweud hyn, mae’n awyddus iawn i bwysleisio mai rhyddiaith, yn anad unrhyw beth arall, sydd wedi cipio ei chalon.

Mae modd prynu’r Cyfansoddiadau a Beirniadaethau, sy’n cynnwys y feirniadaeth lawn ar gyfer y gystadleuaeth hon ynghyd â manylion enillwyr cystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod i gyd, yn dilyn Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener.

Mae Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn cael ei chynnal tan Awst 6.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.eisteddfod.cymru.