Wrth i Frwydr y Bandiau ddechrau ar Lwyfan y Maes yn Nhregaron, mae rhai o’r cystadleuwyr wedi bod yn siarad gyda golwg360.

Rhys Evan, Llyffant, Francis Rees a Sachasom yw’r pedwar sy’n cystadlu heddiw (Awst 3) am y teitl a’r fraint o gael chwarae yn Maes B nos Sadwrn.

Casi Wyn, Lemfreck a DJ Endaf sydd â’r gwaith o feirniadu eleni.

Llyffant

Band Ioan Gwyn, Deio Jones, Gwern ab Arwel a Gruff Owen ydy Llyffant, pedwar sy’n wreiddiol o’r gogledd-orllewin ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Sut mae’r nerfau cyn perfformio felly?

Ioan: Dw i’n erfus, i fod yn onest. Doeddwn i ddim yn meddwl fyswn i, ddim i swnio’n big headed, ond mi ydw i,” meddai Ioan Gwyn. Es i ar y llwyfan dydd Sul a chael teimlad o’r lle a’r tech, felly dw i’n edrych ymlaen o’r ochr yna ond dw i ychydig bach yn nerfus sut fydd y miwsig yn mynd lawr. Mae hwnna’n rhan o fod mewn band, yn enwedig os ti’n gwneud miwsig hollol newydd ti ddim yn gwybod os fydd pobol yn licio fo neu ddim.

Deio: O weld Dafydd Iwan noson o’r blaen mae’r llwyfan yn massive, mae o’n hiwj, fydd yna lot o redeg o gwmpas i gyfro fo. Dw i’n meddwl fyddan ni’n chwys laddar erbyn y diwedd. Ond dw i’n edrych ymalen. Dw i yn nerfus ond dw i’n meddwl fydd o’n grêt, gawn ni hwyl.

Be fedrith bobol ei ddisgwyl o’r set?

Deio: Dawnsio gobeithio! Ydy pobol am wneud? Mae hynny’n gwestiwn arall! Ond fydd o’n grêt os geith bobol gyfle i adael fynd, a mwynhau eu hunain efo’u ffrindiau achos dyna rydyn ni’n ei wneud.

Ioan: Gan bod yr haul yn dod allan, mae pethau’n edrych yn dda. Dw i’n gobeithio wneith hwn weithio fel ryw fath o gateway i bobol fwynhau eu hunain yn yr Eisteddfod, ac i bawb lacio ychydig bach. Egnïol ydy’r gair fyswn i’n ei ddefnyddio i ddisgrifio’r gerddoriaeth. Fe wnaeth Deio ddweud mai dawnsio ydyn ni eisiau i bobol ei wneud, mae’r miwsig yn cyfeirio at hynny. Mae o’n stwff eithaf groovy fyswn i’n ddweud, yn enwedig pan mae gen ti’r chwaraewyr sydd gen ti yn y band mae o’n dod ar draws yn eithaf groovy dw i’n meddwl. Does yna ddim gitâr yn y band, sy’n eithaf gwahanol â bod yn deg.

Deio:  Fe wnaeth yna rywun ddweud wrtha i diwrnod o’r blaen ‘Angen gitâr ydych chi’… Gawn ni weld yn y feirniadaeth! Mae’r geiriau’n eithaf syml hefyd. Mae pob un gytgan yn eithaf syml, y bwriad ydy bod pobol yn teimlo eu bod nhw’n gallu ymuno’n syth.

Sut deimlad fysa cael chwarae yn Maes B?

Deio: Fysa fo’n briliant, fysa ni wrth ein boddau. Fysa fo’n ychydig bach o ‘see your name in light’ moment!

Ioan: Nos Sadwrn Maes B, honna ydy’r slot ti eisiau.

Rhys Evan

Cerddor sydd newydd orffen y chweched dosbarth yn Ysgol Penglais yn Aberystwyth yw Rhys Evan. Mae’n gobeithio mynd i Gaerdydd neu Lerpwl i astudio cerddoriaeth a thechnoleg cerddoriaeth fis Medi.

Sut fyset ti’n disgrifio dy gerddoriaeth?

Mae’r gerddoriaeth dw i’n wrando arno i gyd dros y lle, ac mae’r gerddoriaeth dw i’n ei gwneud fel yna hefyd. Ond dw i’n trio creu sain llawn indie-roc, ond dw i’n gwneud o ar ben fy hun a defnyddio loop station ac ati. Dw i hefyd efo rhai caneuon ar y piano, a rhoi dw i’n chwarae a chanu efo jyst gitâr a thrio cael pobol i berfformio efo fi.

Beth sy’n cael ei drafod yn y gerddoriaeth?

Rhan fwyaf o’r amser, mae’r caneuon yn sôn am gwpwl mewn sefyllfa gymhleth a bydd pob dim yn iawn os ydyn ni jyst yn siarad amdano fo ond dydyn ni jyst ddim – ‘Ydyn ni’n mynd i siarad am hyn achos mae’n mynd yn fwy a mwy cymhleth?’ Mae’r gân Tachwedd, yr ail gân fydda i’n ei chanu, yn sôn am gwpwl sydd bob tro’n mynd allan dros yr haf a thorri fyny dros y gaeaf. Dw i ddim eisiau ysgrifennu am bethau dw i ddim wir yn gwybod am, dw i eisiau ysgrifennu am fod yn ifanc ond dw i eisiau gwneud o mewn ffordd dw i heb weld o’r blaen so dw i’n trio ffeindio darnau o’r bywyd a mynd allan efo phobol a thorri fyny dw i heb bigo fyny mewn caneuon o’r blaen.

Sut mae’r nerfau?

Dw i’n trio meddwl amdano fo fel gwaith, dw i wedi ymarfer i gyd dw i’n gallu ymarfer a dw i am droi fyny a gwneud y swydd orau dw i’n gallu ei gwneud a gweld o fan honno. Dw i’n cael eiliadau o fod yn nerfus iawn, iawn ond rhan fwyaf o’r amser dw i’n cŵl a gwneud be ti’n gorfod gwneud. Dw i heb berfformio mewn rhywbeth mor fawr â hyn ond dw i wedi bod yn perfformio mewn pybs ac yn y gymuned drwy fy holl fywyd. Dw i’n gyfforddus iawn yn perfformio o flaen pobol ond mae’r tech efo hwn yn sialens newydd. Mae hi wedi bod yn job gymhleth iawn gweithio allan sut i wneud y set, ac wedyn ymarfer ac ymarfer fel fy mod i’n gallu paratoi at y gân nesaf pan dw i’n siarad efo’r gynulleidfa. Fydda i’n rhedeg o gwmpas drwy’r amser.

Francis Rees

Merch 16 oed o dref Tywyn yng Ngwynedd ydy Francis Rees. Mae hi wedi rhoi ei EP ei hun ar Spotify, a newydd ryddhau sengl o’r enw ‘Cofleidio’r Golau’ gyda chriw Kathod…