Mae ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus yn cael ei chynnal dros yr haf i dynnu sylw at y ffaith ei bod hi’n anghyfreithlon i smacio a chosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.

Yn dilyn ymgyrch, daeth y gwaharddiad i rym ar Fawrth 21 eleni yn sgil deddfwriaeth newydd Llywodraeth Cymru.

Drwy gydol misoedd yr haf, yn rhan o’r ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus barhaus ar draws y wlad, bydd yr hysbysebu ar stopio cosbi corfforol yn canolbwyntio ar leoliadau i dwristiaid ledled Cymru, gan gynnwys Maes Awyr Caerdydd a’r rhwydwaith o orsafoedd gwasanaeth traffordd yn y wlad.

Mae’r gyfraith newydd yn berthnasol i bawb yng Nghymru – rhieni neu unrhyw un sy’n gyfrifol am blentyn tra bod y rhiant yn absennol.

A fel gyda chyfreithiau eraill, mae’n berthnasol i ymwelwyr â Chymru hefyd.

Yr ymgyrch

Mae cyfres o sioeau teithiol yn cael eu cynnal ledled Cymru hefyd rhwng mis Mehefin a mis Medi i hyrwyddo ymgyrch magu plant yn gadarnhaol Llywodraeth Cymru, Magu Plant. Rhowch amser iddo.

Bydd ymgyrch hysbysebu digidol yn targedu ymwelwyr sy’n mynd i ddigwyddiadau poblogaidd yn ogystal ag atyniadau i dwristiaid i gynyddu effaith yr ymgyrch hysbysebu awyr agored.

Bydd hysbysebion yn ymddangos ar hysbysfwrdd digidol mawr y tu allan i’r ardal gyrraedd ym maes awyr Caerdydd yn ystod anterth tymor teithio’r haf ym mis Awst.

Mae mentrau eraill yn cynnwys hysbysebion mewn archfarchnadoedd ac ar bympiau petrol.

“Yr haf yw’r amser pan fydd pobol yn draddodiadol o gwmpas y lle, ac mae’r ymgyrch hon wedi’i dylunio i sicrhau bod pobol sy’n byw yma, neu sydd ar wyliau gartref yng Nghymru, yn ogystal ag ymwelwyr o wledydd eraill, yn ymwybodol o’r gyfraith newydd,” meddai Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Rwy’n falch iawn ei bod bellach yn anghyfreithlon i gosbi plentyn yn gorfforol yng Nghymru, ac mae’n hollbwysig bod cynifer o bobol â phosibl yn ymwybodol o hynny.

“Rydym yn defnyddio’r technolegau diweddaraf i gyrraedd pobol o bell wrth iddynt deithio o amgylch y wlad, ynghyd â chyfleoedd i gyfarfod wyneb yn wyneb yn ein sioeau teithiol magu plant yn gadarnhaol.

“Roedd yn ddiwrnod gwych i hawliau plant pan ddaeth y gyfraith i rym ac mae’n sicrhau bod Cymru yn bodloni ei rhwymedigaethau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn trwy wahardd cosbi plant yn gorfforol.

“Bellach, mae gan blant sy’n byw yng Nghymru a’r rhai sy’n ymweld â’r wlad yr un amddiffyniad cyfreithiol rhag ymosodiad ag oedolyn am y tro cyntaf.

“Law yn llaw â’r gyfraith newydd, rydym hefyd yn darparu cymorth ychwanegol trwy ein hadnoddau Magu Plant. Rhowch amser iddo i rieni a gofalwyr sy’n chwilio am ddewisiadau eraill yn lle cosbi’n gorfforol a ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant.”