Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn annog Llywodraeth Cymru i wneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad.

Daw hyn wrth i wleidyddion o sawl plaid ddymuno pob lwc i dîm Cymru ar ddiwrnod agoriadol y Gemau yn Birmingham heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 28).

Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, a Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon Cymru, wedi anfon neges pob lwc i Dîm Cymru ar ran Llafur.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i’n holl athletwyr wrth gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham ddiwedd y mis,” meddai Mark Drakeford.

“Dyma gyfle gwych i arddangos y doniau gorau sydd gan Gymru ym maes chwaraeon. Mae hefyd yn ysbrydoliaeth i blant a phobl ifanc gymryd rhan mewn chwaraeon a gobeithio dod o hyd i’w harbenigedd eu hunain!”

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru hapus, iach ac egnïol, a does dim ysbrydoliaeth well i Gymry na pherfformiad Tîm Cymru yn Birmingham,” meddai Dawn Bowden.

“Pob lwc i’n holl athletwyr gwych. Mae Cymru gyfan y tu ôl i chi! Pob Lwc!”

‘Arddangos yr hyn y gallwn ni ei gyflawni fel cenedl’

Mae Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi ychwanegu ei lais at y dymuniadau gorau ar ran ei blaid.

“Ers amser hir, mae Cymru wedi bod yn genedl chwaraeon ac rwy’n edrych ymlaen at weld ein athletwyr cartref yn arddangos yr hyn y gallwn ni ei gyflawni fel cenedl,” meddai.

“Mae pob athletwr yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf, ac mae angen i ni sicrhau ein bod ni’n meithrin y dalent honno fel y gall Cymru barhau i dyfu fel cenedl chwaraeon wych.

“Byddai hyd yn oed yn well pe bai’r Llywodraeth Lafur yn dangos ychydig o uchelgais ac yn gwneud cais i gynnal Gemau’r Gymanwlad yng Nghymru, a fyddai’n hwb enfawr i’n gwlad.

“Dw i eisiau dymuno pob lwc i’n hathletwyr ar gyfer Gemau’r Gymanwlad wrth iddyn nhw ddechrau yn Birmingham heddiw.

“Dw i’n gwybod y byddan nhw’n gwneud y genedl yn falch ac fel goreuon Cymru, maen nhw’n llysgenhadon gwych i weddill y byd.”

Capten Cymru’n bowlio yn Birmingham

Alun Rhys Chivers

Anwen Butten o Gellan ger Llanbedr Pont Steffan, yw capten tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham