Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi rhoi’r crys rhif saith i gadw er cof am Peter Whittingham.

Bu farw’r chwaraewr canol cae poblogaidd yn 35 oed yn 2020.

Symudodd e i Gymru ar ôl pedair blynedd gydag Aston Villa rhwng 2003 a 2007, ac fe dreuliodd e ddegawd gyda chlwb y brifddinas.

Chwaraeodd e mewn 413 o gemau i’r Adar Gleision, gan sgorio 85 o goliau ac fe ddaeth yn dipyn o ffefryn gyda’r cefnogwyr.

Capten newydd a’r rhifau

Yn y cyfamser, mae Caerdydd wedi penodi Joe Ralls yn gapten.

Mae’r chwaraewr canol cae wedi llofnodi cytundeb dwy flynedd newydd, ac mae’n olynu Sean Morrison sy’n parhau i wella o anaf.

Dyma’r rhifau’n llawn

1. ALLSOP, Ryan

2. ROMEO, Mahlon

3. BAGAN, Joel

5. McGUINNESS, Mark

6. WINTLE, Ryan

8. RALLS, Joe (Capten)

10. OJO, Sheyi

11. O’DOWDA, Callum

12. SANG, Tom

14. TANNER, Ollie

15. DENHAM, Ollie

16. NELSON, Curtis

17. COLLINS, Jamilu

18. ADAMS, Ebou

19. SAWYERS, Romaine

20. WHYTE, Gavin

21. ALNWICK, Jak

22. CAMPBELL, Vontae

23. KIPRÉ, Cédric

24. KING, Eli

25. PHILOGENE, Jaden

27. COLWILL, Rubin

28. LUTHRA, Rohan

29. HARRIS, Mark

35. RINOMHOTA, Andy

36. WATTERS, Max

38. NG, Perry

39. DAVIES, Isaak