Ieuan Evans, cyn-gapten tîm rygbi Cymru, yw cadeirydd newydd y Llewod, gan olynu’r Sais Jason Leonard.
Bydd yn dechrau yn y rôl ym mis Hydref.
Daeth cadarnhad o’i benodiad yn dilyn cyfarfod o’r pwyllgor enwebiadau.
Mae is-gadeirydd Undeb Rygbi Cymru’n cael ei ystyried yn un o’r asgellwyr gorau yn hanes rygbi Cymru, ac fe gafodd ei ddewis i’r Llewod dair gwaith, yn 1989, 1993 a 1997.
Sgoriodd e 33 o geisiau mewn 11 mlynedd yng nghrys Cymru, ac mae’n aelod o’r Oriel Enwogion Rhyngwladol 2007 ac Oriel Enwogion Rygbi’r Byd ers 2014.
“Wedi teithio gyda’r Llewod ar anterth fy ngyrfa ryngwladol, mae’n anrhydedd cael fy mhenodi’n gadeirydd Bwrdd Llewod Prydain ac Iwerddon,” meddai.
“Mae teithiau’r Llewod yn unigryw ym myd chwaraeon, yn nhermau’r her eithaf maen nhw’n ei chynrychioli a’r effaith ddiwylliannol maen nhw’n ei chael, ac maen nhw’n rhan annatod o ecosystem rygbi.
“Rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â’m cydweithwyr ar y Bwrdd, Ben Calveley a’i dîm gweithredol, ac at adeiladu ar y gwaith gwych mae Jason Leonard wedi’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf a sicrhau bod Llewod Prydain ac Iwerddon yn parhau i ffynnu ar y cae ac oddi arno.”