Mae Tina Evans, un aelod o dîm sylwebu S4C ar gyfer Gemau’r Gymanwlad sy’n dechrau yn Birmingham yr wythnos hon, yn dweud nad oedd hi “byth wedi disgwyl” y cyfle.
Catrin Heledd a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno’r cyfan, gyda Heledd Anna a Tina Evans yn gohebu ym Birmingham, a Gareth Rhys Owen a Gareth Roberts yn sylwebu ar y campau.
Bydd y ferch o Bontyberem, sydd bellach yn byw yng Nghaerfyrddin, yn sylwebu’n bennaf ar y nofio, ond hefyd ar seiclo a rhywfaint o athletau, a hithau’n paratoi ei hun i gwblhau triathlon.
“Mae gyda fi ddiddordeb yn y triathlon, nofio a’r seiclo, ond i fod yn onest fi’n joio popeth, yn enwedig gwylio pobl sydd â cymaint o angerdd am eu camp,” meddai.
“Pan ges i’r alwad wrth gynhyrchydd chwaraeon BBC (sy’n cynhyrchu’r rhaglenni ar ran S4C) am y swydd o’n i’n methu stopio gwenu. O’n i’n dreifio ar y pryd, hands free wrth gwrs, a phan nes i gyrraedd fy ffrind o’n i dal mewn sioc yn deud wrthi”.
Ar ôl cael diagnosis o Friedreich’s ataxia yn 16 mlwydd oed, mae hi’n defnyddio cadair olwyn.
A hithau bellach yn 37 mlwydd oed, gyda chymorth teulu a ffrindiau ac agwedd bositif at fywyd, dyw hi ddim wedi gadael i’r cyflwr ei dal hi yn ôl.
“Mae e jest ynddo fi, unrhyw beth sy’n bosib i fi ‘neud, nai gael tro,” meddai.
Siarad cyhoeddus
“Roedd e’n rywbeth do’n i byth wedi disgwyl, so o’n i’n eitha’ hapus i glywed er bo fi mewn bach o sioc,” meddai wrth golwg360 am yr alwad yn rhoi gwybod ei bod hi am fod yn aelod o’r tîm sylwebu yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham.
A hithau’n siaradwr cyhoeddus sy’n rhoi sgyrsiau i ysbrydoli pobol ym myd chwaraeon ac yn eu bywydau bob dydd, mae hi’n hen law ar annerch cynulleidfaoedd wyneb yn wyneb.
Ond sut brofiad fydd bod y tu ôl i’r meicroffôn ac o flaen y camerâu teledu, tybed?
“Fi’n eitha’ cyfarwydd â siarad o flaen pobol, fel crowds mawr, so fi’n siwr fydd camera yn ocê,” meddai.
“Ond hefyd, bydda i’n dysgu sgript a phethau.
“Fi’n eitha’ hyderus yn fy hunan yn siarad o flaen pobol, so mae hwnna’n ocê.”
- Darllenwch gyfweliad llawn gyda Tina Evans yng nghylchgrawn golwg yr wythnos nesaf.