Mae David Hemp, cyn-gapten tîm criced Morgannwg, wedi’i benodi’n un o is-hyfforddwyr tîm merched y Tân Cymreig ar gyfer ail dymor y gystadleuaeth Can Pelen (The Hundred).
Mae’r gŵr o Abertawe, a chwaraeodd i dîm cenedlaethol Bermiwda lle cafodd ei eni, yn brif hyfforddwr tîm merched Pacistan ac mae ganddo fe brofiad o weithio gyda’r Melbourne Stars yn y Big Bash yn Awstralia hefyd.
Roedd Hemp yn aelod o dîm Morgannwg enillodd y gynghrair undydd yn 1993, gan ennill ei le yn nhîm ‘A’ Lloegr y flwyddyn ganlynol.
Symudodd i Swydd Warwick yn 1997, cyn dychwelyd i Forgannwg yn 2002 a chwarae ei ran yn y tîm enillodd y gynghrair undydd yn 2002 a 2004.
Cafodd ei benodi’n gapten yn 2006 a’i ryddhau gan y sir yn 2008.
Y tîm hyfforddi
Gareth Breese, cyn-chwaraewr amryddawn Durham ac India’r Gorllewin, yw’r prif hyfforddwr, ac yn ymuno â nhw mae Aimee Rees a Dan Helesfay.
Mae Gareth Breese yn olynu Matthew Mott, cyn-brif hyfforddwr Morgannwg, sydd wedi’i benodi’n brif hyfforddwr tîm undydd Lloegr.
Mae Breese wedi bod yn gweithio i Fwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB), a chyn hynny roedd yn brif hyfforddwr tîm merched Prifysgol Durham.
Mae Aimee Rees yn aros gyda’r tîm am yr ail dymor yn olynol, a hithau’n brofiadol yng ngêm y merched gydag Academi Western Storm, lle mae Dan Helesfay yn uwch-reolwr talent rhanbarthol.
Bydd tîm dynion y Tân Cymreig yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Southern Brave yn Southampton ar Awst 3, ac yn herio’r Oval Invincibles am y tro cyntaf yng Nghaerdydd ar Awst 7.
Bydd y merched yn dechrau ar Awst 13 yn erbyn Birmingham Phoenix yng Nghaerdydd, a bydd eu hymgyrch yn dod i ben gyda dwy gêm yn erbyn y Northern Superchargers yng Nghaerdydd ar Awst 26.