Anwen Butten o Gellan ger Llanbedr Pont Steffan, sy’n nyrs canser gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, yw capten tîm Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad yn Birmingham. Wrth i’r Gemau ddechrau yr wythnos hon, bu’r chwaraewraig bowls 49 oed yn siarad â Golwg am ei gobeithion ar y lawnt ac yn y Gemau ar y cyfan, wrth iddi greu hanes drwy ymddangos yn ei chweched Gemau – y nifer fwyaf erioed gan Gymraes. Enillodd hi fedal efydd ym Manceinion yn 2002 a Delhi yn 2010.